Clermont Auvergne 32–11 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Clermont Auvergne yn y Stade Marcel Michelin brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth y Cymry’n dda i aros ynddi yn hanner cyntaf y gêm yng ngrŵp 4 Cwpan Heineken, ond roedd y Ffrancwyr yn rhy gryf o lawer wedi’r egwyl a chawsant fuddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws yn y diwedd.

Fe aeth Clermont chwe phwynt ar y blaen yn gynnar diolch i ddwy gic gosb o droed Brock James, ond llwyddodd Bois y Sosban i aros yn y gêm yn yr hanner cyntaf diolch i gyfuniad o amddiffyn dewr a phenderfyniadau da gan y dyfarnwr fideo.

Caeodd Rhys Priestland y bwlch gyda chic gosb i’r ymwelwyr a bu bron iddo unioni’r sgôr cyn yr egwyl hefyd ond tarodd ei ail gynnig yn erbyn y postyn.

Dechreuodd gwaith caled y Scarlets yn y deugain munud agoriadol serch hynny adael ei ôl yn yr ail hanner wrth i gryfder a doniau’r Ffrancwyr brofi’n ormod i’r ymwelwyr blinedig.

Daeth cais cyntaf Clermont i gyn chwaraewr Llanelli o bawb, y clo, Jamie Cudmore, wedi saith munud o’r ail hanner.

Ac er i Jordan Williams ddod â’r Cymry’n ôl o fewn sgôr yn fuan wedyn, fe sicrhaodd Naipolioni Nalaga y fuddugoliaeth i’r Ffrancwyr gyda dau gais mewn cyfnod o chwe munud toc cyn yr awr.

Gwnaeth yr asgellwr yn dda i dirio’r cyntaf yn dilyn cic berffaith James i’r gornel ac ychwanegodd y gŵr o Fiji ei ail yn dilyn gwaith da gan Nathan Hines a Sitiveni Sivivatu.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel felly ond dangosodd y Scarlets galon i daro nôl gyda chais Rhodri Williams. Clermont a gafodd y gair olaf serch hynny wrth i gais Clément Ric ennill pwynt bonws i’r tîm cartref yn eiliadau olaf y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi Clermont i frig grŵp 4 ac mae’r Scarlets yn aros yn ail am y tro, er y gall Racing Metro neu Harlequins godi drostynt yn hwyrach heddiw.

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: Jamie Cudmore 47’, Naipolioni Nalaga 53’, 59’, Clément Ric 80’

Trosiadau: Brock James 47’, 53’, Mike Delany 80’

Ciciau Cosb: Brock James 9’, 13’

.

Scarlets

Cais: Rhodri Williams 79’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 17’, Jordan Williams 49’