Castres 15–9 Gweilch
Mae’r Gweilch fwy neu lai allan o’r Cwpan Heineken am dymor arall ar ôl colli yn erbyn Castres yn Stade Pierre Antoine nos Wener.
Brwydr gicio oedd hi yn ne Ffrainc ond er i Dan Biggar lwyddo gyda thair cic gosb i’r Gweilch, doedd hynny ddim yn ddigon gan i’r tîm cartref lwyddo gyda phump.
Biggar a’r Gweilch a agorodd y sgorio wedi dim ond pum munud ond roedd Castres yn gyfartal wedi chwarter awr yn dilyn tri phwynt o droed y mewnwr, Rory Kockott.
Rhoddodd Kockott ei dîm ar y blaen wedyn hanner ffordd trwy’r hanner ond unionodd Biggar y sgôr i’r Gweilch o fewn munud ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Llwyddodd Kockott gyda chynnig arall at y pyst yn gynnar yn yr ail hanner cyn ychwanegu pedwaredd cic gosb ddeuddeg munud o’r diwedd tra yr oedd y Gweilch i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn Sam Lewis.
Chwe phwynt oedd ynddi felly pan benderfynodd Biggar fynd am y pyst gyda chic gosb chwe munud o’r diwedd, ac er i hynny gau’r bwlch i dri phwynt, Castres a gafodd y gair olaf gyda chic gosb gan yr eilydd, Geoffrey Palis.
Fe chwiliodd y Cymry am y cais yn y munudau olaf ond daliodd amddiffyn Castres yn gryf, hyd yn oed wedi iddynt fynd i lawr i dri dyn ar ddeg yn dilyn cardiau melyn hwyr i Palis a Seremaia Bai.
Pwynt bonws yn unig i’r Gweilch felly a hwnnw yw eu pwynt cyntaf mewn tair gêm yng ngrŵp 1. Mae’r rhanbarth o Gymru yn aros ar waelod y grŵp felly mewn ymgyrch Ewropeaidd siomedig arall.
.
Castres
Ciciau Cosb: Rory Kockott 15’, 21’, 42’, 69’, Geoffrey Palis 76’
Cardiau Melyn: Geoffrey Palis 80’, Seremaia Bai 80’
.
Gweilch
Ciciau Cosb: Dan Biggar 5’, 22’, 74’
Cardiau Melyn: Aisea Natoga 9’, Sam Lewis 61’