Gleision Caerdydd 29–20 Glasgow
Cododd y Gleision i frig grŵp 2 Cwpan Heineken gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Glasgow ar Barc yr Arfau nos Wener.
Sgoriodd Rhys Patchell ac Alex Cuthbert geisiau i’r tîm cartref ac roedd hynny ynghyd â chicio cywir Leigh Halfpenny’n ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth hollbwysig.
Hanner Cyntaf
Sefydlodd y Gleision chwe phwynt o fantais yn y chwarter cyntaf gyda dwy gic gosb, y gyntaf o droed Halfpenny a’r ail yn fynydd o gic gan Patchell.
Ymestynnodd y maswr y fantais wedi hynny gyda chais cyntaf y gêm, wrth hyrddio’i hun dros y llinell yn dilyn cyfnod da o bwyso, 13-0 yn dilyn trosiad Halfpenny.
Ychwanegodd Halfpenny dri phwynt arall wedi hynny ond roedd Glasgow yn ôl yn y gêm ar yr egwyl wedi i Sean Maitland sgorio cais gyda symudiad olaf yr hanner.
Ail Hanner
Cic gosb o droed Halfpenny oedd pwyntiau cyntaf yr ail hanner ond roedd Glasgow yn ôl o fewn sgôr gyda chwarter awr yn weddill yn dilyn dwy gic gosb gan Duncan Weir.
Adferodd Halfpenny’r naw pwynt o fantais gyda chic gosb arall ddeg munud o’r diwedd ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddau funud yn ddiweddarach diolch i gais unigol da Cuthbert. Rhyng-gipiodd yr asgellwr y bêl yn ddwfn yn ei hanner ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd at y llinell gan guro’r dyn olaf i ennill y gêm i’w dîm.
Roedd digon o amser ar ôl i Leone Nakarawa groesi i Glasgow ond cais cysur yn unig oedd hwnnw i’r clo, 29-20 y sgôr terfynol o blaid y Cymry.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision o waelod grŵp 2 i’r brig, ond gall Caerwysg neu Toulon godi drostynt gyda buddugoliaeth yfory.
Ymateb
Maswr y Gleision, Rhys Patchell:
“Y peth yr ydyn ni fwyaf plês ag e’ heno yw’r ffaith ein bod ni wedi mynd ati am wyth deg munud, lle yn y gorffennol ry’n ni wedi gadael i gemau fel hyn lithro.”
“Roedd hi’n dda ennill heno yn sicr, ond fydd e’n golygu dim os na awn ni i Scotstoun wythnos nesaf a chael buddugoliaeth, neu o leiaf bwynt bonws wrth golli.”
.
Gleision
Ceisiau: Rhys Patchell 26’, Alex Cuthbert 72’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 26’, 72’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’, 34’, 47’, 70’, Rhys Patchell 18’
.
Glasgow
Ceisiau: Sean Maitland 40’, Leone Nakarawa 79’
Trosiadau: Duncan Weir 40’, 79’
Ciciau Cosb: Duncan Weir 53’, 64’