Nos yfory fe fydd y Gleision yn croesawu’r Worcester Warriors i Barc yr Arfau ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghwpan yr LV.

Mi fydd y clo Miles Normandale yn chwarae am y tro cyntaf dros y rhanbarth ac yn ogystal bydd yna gyfle i’r maswr Simon Humberstone, sydd wedi disgleirio i Bontypridd y tymor hwn, chwarae am y tro cyntaf i’r Gleision oddi ar y fainc.

Mae deg chwaraewr o’r garfan ar ddyletswyddau rhyngwladol, ac ni fydd Alex Cuthbert, Tom Pascoe, Ellis Jenkins, Robin Copeland, Josh Navidi, Marc Breeze, Aled Summerhill, Ben Roach a Harry Robinson yn chwarae oherwydd anafiadau.

Mae’r Gleision wedi cadarnhau hefyd bod angen llawdriniaeth ar droed y clo Lou Reed wedi iddo dderbyn anaf yn ystod buddugoliaeth y Gleision yn erbyn Treviso.

Mae’r Gleision wedi gwneud chwech newid i’r tîm a gurodd Benetton Treviso yr wythnos diwethaf.

‘‘Dyma’r tîm gorau y gallwn ni ei ddewis ar gyfer y gêm. Rydyn ni’n yn hynod o gyffrous ac yn disgwyl i’r chwaraewyr ifanc i gymryd y cyfle yma i brofi ei hunain,” meddai rheolwr amddiffyn y Gleision, Dale McIntosh.

“Gallwch ymarfer yn galed trwy’r wythnos ond mae’n rhaid i chi ymdopi gyda’r sefyllfa ar y noson,’’ ychwanegodd.

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Tom Williams, Richard Smith, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lewis Jones.

Blaenwyr – Tom Davies, Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Miles Normandale, James Down, Macauley Cook, Thomas Young a Andries Pretorius (Capten).

Eilyddion – Rhys Williams, Sam Hobbs, Taufa’ao Filise, Luke Hamilton, Rory Watts-Jones, Alex Walker, Simon Humberstone a Gavin Evans.