Ni fydd yr anthemau cenedlaethol yn cael eu canu yn rownd derfynol y Cwpan Carling ddydd  Sul.

Mae FA Lloegr wedi penderfynu na fydd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a ‘God Save The Queen’ cael eu canu cyn y gêm rhwng Caerdydd a Lerpwl.

Cyn rownd derfynol Cwpan yr FA rhwng Caerdydd a Portsmouth yn 2008, mi wnaethon nhw ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. 

Ond bu ffrae am nad oedd y rhan fwyaf o gefnogwyr Caerdydd yn cefnogi’r penderfyniad.

Am y tro cyntaf erioed, ni fydd yr un anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn ffeinal yn Wembley.

Mae gan FA Lloegr bolisi o beidio â chwarae’r un anthem genedlaethol os yw tîm o Gymru yn cymryd rhan mewn gêm fawr yn Wembley.