Malky Mackay
Mae Rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi  llofnodi cytundeb newydd tair blynedd a hanner.

Roedd Mackay yn wreiddiol wedi llofnodi cytundeb blynyddol gyda’r clwb, ar ôl cymryd yr awenau oddi wrth Dave Jones.

Mae Malky Mackay wedi bod yn rheoli’r clwb ers Mehefin 2011.

Bydd yn gobeithio arwain Caerdydd i gwpan gyntaf tîm Cymreig yn Lloegr ers i Gaerdydd gyflawni’r gamp am y tro cyntaf yn 1927.

Caerdydd yw’r unig glwb Cymreig i ennill Cwpan FA. Bwriad y clwb nawr yw ennill Cwpan y Gynghrair hefyd.

Ffefryn yr Adar Gleision

Yn wreiddiol o Bellshill, mae Mackay yn rhan o’r ffenomenon o reolwyr pêl-droed Prydeinig llwyddiannus a’u magwyd yn ardal Glasgow.

Er bod Caerdydd wedi colli ei ffordd ychydig yn y gynghrair yn yr wythnosau diwethaf, bydd y newyddion yn hwb mawr i’r cefnogwyr.

Mae Mackay yn boblogaidd gyda chefnogwyr clwb Dinas Caerdydd, a bydd yn arwain y tîm i Wembley ddydd Sul.

Bydd Caerdydd yn chwarae Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling, sef Cwpan y Gynghrair.

Enillodd Mackay 5 cap i’r Alban fel chwaraewr, a buodd yn chwarae i Queen’s Park Rangers, Celtic, Norwich City, West Ham United a Watford.

Adfer y tîm

Yn dilyn methiant Caerdydd yn y gemau cymhwyso ar gyfer yr Uwch Gynghrair y llynedd, collodd Caerdydd 12 chwaraewr.

Wedi iddo arwyddo 10 chwaraewr newydd ar ôl cyrraedd y clwb, mae Mackay wedi arwain Caerdydd yn ôl i ben uchaf y tabl.

Gyda Chaerdydd yn chweched yn y gynghrair, mae’r tîm 6 pwynt tu ôl i Southampton, sydd yn yr ail safle cymhwyso awtomatig.