Bolton 2–1 Abertawe
Mae Abertawe allan o’r Cwpan FA ar ôl colli oddi cartref yn Bolton yn y bedwaredd rownd heddiw. Rhoddodd Brendan Rodgers hoe i’w dîm cyntaf gan wneud deg newid i’r tîm a gollodd yn Sunderland yr wythnos diwethaf. Roeddynt ar y blaen toc cyn yr egwyl serch hynny, ond yn ôl y daeth y tîm cartref yn Stadiwm Reebok gan unioni cyn hanner amser a chipio’r fuddugoliaeth yn yr ail hanner.
Ychydig iawn a greodd Abertawe o flaen gôl yn yr hanner cyntaf ond roedd y bêl yng nghefn rhwyd Bolton wedi 40 munud serch hynny. Wayne Routledge a oedd yn meddwl ei fod wedi sgorio ond roedd yn cam sefyll yn ôl y dyfarnwr cynorthwyol.
Ond roedd yr Elyrch ar y blaen dri munud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith da gan Luke Moore. Gwnaeth yr ymosodwr yn dda i ennill y bêl cyn ei chodi yn gelfydd dros gôl-geidwad Bolton, Adam Bogdan.
Roedd hi’n gyfartal ar yr egwyl diolch i gôl Darren Pratley yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Chwipiodd Martin Petrov gic rydd i’r cwrt cosbi a pheniodd cyn chwaraewr yr Elyrch i gefn y rhwyd.
Bu bron i Moore sgorio’i ail yn gynnar yn yr ail hanner ond y tîm cartref oedd y tîm gorau o hyd a hwythau oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio. Gwnaethant hynny wedi 56 munud pan fanteisiodd Chris Eagles ar gamgymeriad Gerhard Tremmel i rwydo. Yr Almaenwr oedd yn chwarae yn y gôl i’r Elyrch heddiw yn lle Michel Vorm ond gwnaeth smonach llwyr o ergyd Petrov ac roedd Eagles wrth law i sgorio.
Daeth y ddau dîm yn agos wedi hynny. Tarodd Leroy Lita y postyn i Abertawe cyn i Pratley daro’r trawst yn y pen arall. A bu bron i’r eilydd, Danny Graham, unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm ond taro’r pren a wnaeth ei beniad yntau hefyd wrth i Bolton gadw eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Canolbwyntio ar y gynghrair fydd tasg Abertawe o hyn tan ddiwedd y tymor felly a byddai penderfyniad Brendan Rodgers i ddewis tîm gwanach heddiw yn awgrymu na fydd yn poeni gormod am hynny.