Chris Coleman
Yn ogystal â chwaraewyr amlwg fel Aaron Ramsay a Gareth Bale, mae rhai o sêr ifanc Abertawe wedi eu gwahodd i chwarae i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd dros yr haf.
Mae rheolwr newydd Cymru yn poeni am effaith hyn ar obeithion y tîm yn eu gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Medi.
“Rydw i’n ofnus, os ydw i’n bod yn onest,” meddai Chris Coleman.
“Yn ddelfrydol fyddwn i ddim am iddyn nhw fynd, ond fedrwn ni ddim eu hatal nhw.
“Rydw i’n deall safbwynt y chwaraewyr, maen nhw eisiau’r profiad.”
Mi fydd gem derfynol cystadleuaeth gêm bêl-droed Gemau Olympaidd Llundain yn cael ei chwarae ar Awst 11, ac mi fyddai anaf i Ramsay neu Bale yn drychinebus i Gymru.
“Os ân nhw drwodd i’r ffeinal,” meddai Coleman, “yna dau neu dri diwrnod wedyn fe fydd ganddon ni gêm gyfeillgar yn baratoad ar gyfer y gêm ragbrofol ym mis Medi. Felly mae’n un anodd iawn. Rydw i’n credu bod y chwaraewyr yn deall ein safbwynt ni, ein bod yn ceisio eu gwarchod nhw.”
Y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg