Curtis Obeng
Mae’r cefnwr Curtis Obeng wedi wfftio adroddiadau’n ei gysylltu â nifer o dimau mawr, gan ddweud ei fod yn ymroi’n llwyr i ennill dyrchafiad gyda Wrecsam.
Roedd Obeng yn un o’r chwaraewyr a ddaliodd y llygad wrth i Wrecsam herio Brighton yng Nghwpan yr FA yn ddiweddar.
Ddechrau’r wythnos roedd adroddiadau yn y wasg yn awgrymu bod Abertawe ar fin gwneud cynnig am y chwaraewr 22 oed.
Ymysg y clybiau eraill sydd wedi dangos diddordeb mae Charlton Athletic a Brighton eu hunain.
Er hynny, mae cyn-chwaraewr dan-19 Lloegr yn dweud ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar ymdrechion Wrecsam i godi o Gynghrair y Blue Square eleni.
“Mae gen i gytundeb gyda Wrecsam am ddeuddeg mis eto, a dw i’n bwriadu cadw at hwnnw,” meddai Obeng wrth y Daily Post.
“Mae yna waith i’w wneud yma i geisio ennill dyrchafiad a dw i eisiau chwarae rhan lawn yn hynny.”
Gobeithion
Dechreuodd Obeng ei yrfa yn academi Manchester City gan chwarae yn yr un tîm ieuenctid â Micah Richards, Daniel Sturridge ac ymosodwr Cymru Ched Evans.
Yn y gorffennol mae wedi datgelu ei fod dal yn obeithiol o chwarae ar y lefel uchaf rhyw ddydd.
“Wrth gwrs mae’n braf clywed am glybiau mawr yn dangos diddordeb ynddoch chi, ond fydd hynny ddim yn tynnu fy sylw o’r hyn dwi am gyflawni gyda Wrecsam.”
Mae’r cefnwr wedi bod yn rhan ganolog o dîm cyntaf Wrecsam ers i Dean Saunders ei arwyddo yn 2009, ac mae wedi dod yn ffefryn gyda chefnogwyr y Cae Ras.
Cytundebau newydd i ddau
Yn y cyfamser mae dau o chwaraewyr eraill Wrecsam wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb.
Mae’r golwr o’r Cameroon, Joslain Mayebi – un arall o sêr rhediad cwpan FA Wrecsam – wedi cytuno i aros ar y Cae Ras am ddwy flynedd a hanner pellach.
Y llall yw’r chwaraewr canol cae Jay Harris sydd wedi arwyddo am ddeunaw mis pellach.