Mae timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd yn dychwelyd i’r cae am y tro cyntaf ers tri mis y penwythnos hwn, ar ôl i’r Bencampwriaeth ddechrau eto yn dilyn seibiant yn sgil y coronafeirws.

Tra bod Caerdydd yn croesawu Leeds i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sul (Mehefin 21), taith i Middlesbrough sydd gan Abertawe – un o’r teithiau mwyaf yn y gynghrair – yfory (dydd Sadwrn, Mehefin 20).

Ac ar drothwy’r daith, mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, wedi bod yn trafod sut mae gwneud trefniadau i deithio o dde Cymru i ogledd-ddwyrain Lloegr yng nghanol y pandemig, gan gadw at y rheolau ehangach.

Tra bod y rheolau wedi’u llacio mwy yn Lloegr, mae cyfyngiadau teithio llymach yn eu lle yng Nghymru, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n atal timau Cymru sy’n chwarae yng nghystadlaethau Lloegr rhag teithio.

‘Mae’n mynd i fod yn wahanol’

Yn ôl Steve Cooper, fe fydd golwg “wahanol” ar gemau cyn diwedd y tymor, gyda naw o gemau’r gynghrair yn weddill, yn ogystal â’r posibilrwydd o gemau ail gyfle i’r Elyrch, sy’n unfed ar ddeg ar hyn o bryd, ond dim ond triphwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

“Mae’n mynd i fod yn wahanol heb dorfeydd, a’r holl brofiad ar ddiwrnodau gemau,” meddai.

“Mae trefniadau teithio a llety gwahanol ac wrth gwrs y bydd hynny’n teimlo’n wahanol ond mae’n rywbeth y bydd rhaid i ni ddod i arfer â fe.”

Yn ôl Steve Cooper, bydd y tîm a’r staff yn teithio ar ddau fws ac awyren er mwyn cyrraedd Middlesbrough.

Byddan nhw’n mynd ar y ddau fws i Gaerdydd ac yn hedfan o Gaerdydd i ogledd-ddwyrain Lloegr.

“Mae’n fater o ymbellháu’n gymdeithasol,” meddai.

“Dw i’n gwybod ein bod ni, fel pawb arall, wedi gorfod cynhyrchu protocol newydd ar gyfer y gynghrair i gael sêl bendith, a bydd Boro wedi gwneud yr un fath.

“Mae’n fater o gadw at yr hyn yw’r cyfyngiadau yn nhermau ymbellháu cymdeithasol a cheisio gwneud y rheolau mor ddiogel â phosib.

“Mae criw mawr yn teithio i gemau nawr, a dyw hi ddim yn garedig iawn bod ein gêm gyntaf mor bell o Abertawe ag y gall fod.

“Ond roedd y clwb wedi ymrwymo i hedfan ar ddechrau’r tymor.

“Mae’n siŵr nad yw’r clwb yn hedfan cymaint ag yr oedden nhw’n arfer gwneud, ond fe wnaethon ni ddewis ambell gêm lle’r oedd hynny’n briodol ar gyfer y perfformiad o fewn ein cyfyngiadau ni.

“Unwaith fyddwn ni’n cyrraedd y maes awyr, bydd dau fws a bydd ystafelloedd sengl yn y gwestai.”

Y gêm yn dal yr un fath

Er y trefniadau gwahanol, mae’n pwysleisio na fydd y pêl-droed yn wahanol iawn unwaith fydd y chwaraewyr ar y cae.

“Ond mae’n dal i fod yn unarddeg yn erbyn unarddeg, a dw i’n siŵr y bydd rhannau mawr o’r gemau yn teimlo’r un fath.

“Rhaid i ni geisio addasu’n gyflym i’r newidiadau hyn, mae’n fater o fwrw iddi.

“Does gan neb fantais nac anfantais, mae’r protocol wedi gwneud popeth yn deg.”