Mae chwaraeon proffesiynol yn y Deyrnas Unedig yn disgwyl am fanylion pellach ynglyn â chynllun y Llywodraeth i lacio cyfyngiadau’r lockdown.

Nos Sul (Mai 10) dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n rhy gynnar i lacio’r lockdown yn sylweddol.

Mae disgwyl i wybodaeth ynglyn â phryd fydd y camau nesaf yn cael eu cymryd gael ei chyflwyno gerbron y Senedd heddiw.

Daw hyn wrth i Uwchgynghrair Lloegr baratoi ar gyfer cyfarfod heddiw (dydd Llun, Mai 11) i drafod y camau nesaf ar gyfer dychwelyd pêl-droed.

Does dim disgwyl i gyfarfod heddiw gynnwys pleidlais ar ddefnyddio stadiymau niwtral er mwyn cwblhau’r tymor, sydd wedi profi i fod yn un o faterion mwyaf cynhennus y Prosiect Ailddechrau hyd yn hyn.

Mae chwaraeon eraill hefyd yn pwyso a mesur goblygiadau cyhoeddiad Boris Johnson.

Dywed Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ei fod yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth, gan ddweud: “Mae pawb yn gobeithio y bydd criced yn cael ei chwarae ar draws Lloegr a Chymru’r haf hwn.”

Roedd Formula One wedi gobeithio cynnal rasys yn Silverstone fis Gorffennaf, yn syth wedi i rasys gael eu cynnal yn Awstria.

Ond gallai’r cynlluniau yna gael eu heffeithio gan gyhoeddiad Boris Johnson y bydd pobl sy’n hedfan i mewn i’r Deyrnas Unedig orfod hunan ynysu am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd.

Dywedodd Boris Johnson ddoe (Mai 10) bod gan bobl hawl i ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd o ddydd Mercher (Mai 13) ymlaen, ond dyw cyngor Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn hynny o beth heb newid.