Mae cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Lloegr, Rick Parry, wedi dweud bod posibilrwydd na fydd tymor 2020-21 yn dechrau nes bod torfeydd yn cael dychwelyd.

Dywed hefyd fod yr awydd i orffen y tymor cyfredol yn fwy i wneud ag uniondeb chwaraeon na rheidrwydd ariannol.

Daw hyn wrth i’r Almaen gyhoeddi eu bod yn barod i ailddechrau’r Bundesliga yn nes ymlaen y mis hwn, ond heb gefnogwyr.

Siaradodd Rick Parry am yr heriau uniongyrchol a hirdymor y mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn eu hwynebu yn sgil pandemig y coronaferiws wrth annerch Aelodau Seneddol yng nghyfarfod Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan ddydd Mawrth (Ebrill 5).

Rhybuddiodd y gallai pethau droi’n “flêr” os bydd timau’r Uwch Gynghrair yn atal timau rhag ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth.

Dywedodd bod trafodaethau ynglyn â chap cyflog a mesurau arbed arian eraill yn cael eu cynnal, tra bod angen cymryd camau i fynd i’r afael â’r “twll ariannol” o £200 miliwn mae’n dweud y bydd clybiau’n ei wynebu erbyn diwedd mis Medi.

Pwysleisiodd fod pêl-droed yn gêm i wylwyr a chefnogwyr ac y byddai’n rhaid cynnal trafodaethau, tu hwnt i ddiwedd y tymor hwn, ynglŷn ag oes synnwyr mewn dechrau’r tymor nesaf tan fod torfeydd yn cael dychwelyd.

“Dwi’n meddwl fod yn rhaid i ni feddwl yn ddwys am sut i ddechrau’r tymor nesaf, neu os ydyn ni’n dechrau’r tymor nesaf heb dorfeydd,” meddai Rick Parry.

Clybiau Cymreig

Mae tri clwb o Gymru yn chwarae yng Nghynghrair Lloegr ar hyn o bryd, gyda Chaerdydd ag Abertawe yn y Bencampwriaeth a Chasnewydd yn yr Ail Gynghrair. Mae Wrecsam lefel yn is yn y ‘Vanarama National League’.

Dyw Tim Hartley, cefnogwr Caerdydd sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr elusen cefnogwyr pêl-droed Cymru, Gôl, ddim am weld y tymor nesaf yn dechrau heb gefnogwyr mewn stadiymau.

“Mae’n rhaid cofio nad rhaglen deledu yw pêl-droed,” meddai.

“Ar rai clybiau, mae wir angen pobl yn y stadiymau i dalu am dicedi i greu arian.

“Byddai timau yn yr Uwch Gynghrair yn gallu goroesi heb broblem, ond dyw hynny ddim yn wir am dimau sy’n chwarae mewn cynghreiriau is.”

Dywed Tim Hartley fod angen ystyried canslo gweddill y tymor hwn hefyd.

“Mae chwarae mewn stadiymau niwtral yn hollol hurt, does dim pwynt chwarae heb gefnogwyr,” meddai.

“Ella dylai’r tymor hwn gael ei sgrapio’n llwyr, pawb yn dod at ei gilydd a chytuno bod rhai pethau yn bwysicach na phêl-droed.”