Joe Mason (Llun o Wikipedia - CCA 2.0)
Gohebydd clwb Caerdydd sy’n dod â stori ecsgliwsif o Burnley i Golwg360….

“Mae’n amser od i fod yn gefnogwr Burnley,” meddai un o fy nghyfoedion o’r coleg ar ôl imi gysylltu ag ‘e i ofyn sut siâp oedd ar ei dîm.

Nid dyna unig ddwedodd ‘e chwaith, a gan ei fod wedi rhoi deg munud o’i fywyd prysur i sôn amdanynt (gath ‘e gyrfa o’i radd e mae’n debyg!), well imi ailadrodd (a chyfieithu) ei deimladau… rhag ofn bydd yna rywbeth gallwn ddysgu ni fel cefnogwyr y brifddinas.  Yn arbennig o ystyried bod Burnley yn dîm o’r Bencampwriaeth sydd wedi llwydo i gyrraedd yr Uwch-le.

Hedfan o’r nyth

O’n i’n cymryd yn ganiataol y bydden nhw’n gweld eisiau Chris Eagles, sydd eisoes wedi hedfan draw i Bolton – ac yn ôl felly i’r Uwch Gynghrair – ond yn ôl cefnogwyr Burnley, mae’n perfformio i’w llawn botensial cyn lleied maen nhw’n well hebddo.

Tybed a fyddai cefnogwyr Caerdydd yn fodlon dweud yr un peth am Bellamy?  Does dim lot wedi digwydd o’i blaid ers iddo fe’i heglu nôl i Lerpwl, ond chwarae teg i Craig mae Cymru yn elwa o’i bresenoldeb bob tro.

Enwau digon anhysbys maen nhw’n gweld eu heisiau yn Burnley lenni – Tyrone Mears, sydd hefyd wedi mynd i chwarae i Bolton fel cefnwr de, Danny Fox aeth i Southampton a Wade Elliot, sydd nawr yn chwarae ar yr asgell i Birmingham City.

Mae pawb yng Nghaerdydd yn cofio Chopra felly nid chwaraewr anhysbys ydy o, ond tybed a yw hi’n iawn felly i gredu mai’r chwaraewyr sy’n mynd i’n prif elynion megis Ipswich yw’r rhai ni’n colli fwyaf? Fy theori i yw, bod Alex Ferguson yn cadw’r hen “Gymro” Michael Owen ar y fainc er mwyn osgoi bod Owen yn sgorio yn eu herbyn.  Berbatov hefyd falle?

Lwcus o Malky, ond dim lle i Darcy

S’dim siâp ar Eddie Howe fel rheolwr Burnley hyd yn hyn. Ry’n ni mor ffodus felly bod yna reolwr gwirioneddol dda gan Gaerdydd ar hyn o bryd, ac mae M&M wrth ei fodd gyda’r tîm mae’n rhaid, yn arbennig ein bod ni nawr wedi cyrraedd yr wyth olaf yng nghwpan y Gynghrair.

Diolch i’r Gwyddel Joe Mason, ennill eto fu hanes Malky yn Lecwydd neithiwr.  A dydi cefnogwyr Caerdydd ddim mor ddiffuant yn eu cariad tuag at Earnshaw nes y bydden nhw eisiau ‘e nôl yn y tîm tra bod Mason yn chwarae mor addawol.

Roedd McPhail unwaith eto’n rhagorol yng nghanol y cae, ac o ystyried bod Hudson a Gerrard wedi chwarae neithiwr, efallai bod Mackay yn gobeithio dilyn ac adlewyrchu dechrau syfrdanol Newcastle eleni sydd â’r sylfaen gadarn o’r tîm (a’r amddiffynwyr) gorau yn chwarae bob gêm.  Dim lle i Darcy Blake eto felly!

Ges i ebost gan Burnley boy cyn y gêm hefyd, wedi ei ysgrifennu yn yr un arddull ag y buodd yn ei ddefnyddio wrth olygu’r fanzine i’r Clarets yn y 1990au (‘Bob Lord’s Sausage’ oedd teitl hwnnw os gofiaf yn iawn)

“We don’t really care about the Carling Cup, so there will no tears if we lose tonight. Most of us will be pretty apathetic unless there is a massive win or massive defeat.”

Dyna’n mae’n siŵr oedd cefnogwyr Caerdydd wedi dweud hefyd … cyn y gêm!  Ond nid nawr fod yr Adar Gleision yn yr wyth olaf.  Cup run anyone?!

Dafydd Wyn Williams, gyda diolch i Steve Anderson o Giles Winkley Enterprises