Caerdydd 0–1 Nottingham Forest                                               

Collodd Caerdydd gartref yn y Bencampwriaeth am yr eildro’n unig wrth iddynt groesawu Nottingham Forest nos Fawrth.

Sgoriodd Tiago Silva unig gôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner yn Stadiwm y Ddinas wrth i obeithion yr Adar Gleision o gyrraedd y gemau ail gyfle dderbyn cnoc.

Di sgôr a oedd hi wedi hanner cyntaf digon di nod, er fod Caerdydd yn teimlo y dylent fod wedi cael cic o’r smotyn pan gafodd Josh Murphy ei lorio gan Matty Cash yn yr eiliadau olaf.

Ni fu rhaid aros yn hir am gôl wedi’r egwyl serch hynny ond yn anffodus i’r tîm cartref, yr ymwelwyr a’i chafodd hi. Lledodd Silva’r bêl i Lewis Grabban ar y dde cyn parhau â’i rediad i’r cwrt cosbi i droi’r croesiad i gefn y rhwyd.

Digon tila a oedd ymdrech yr Adar Gleision i frwydro nôl, ac yn wir, roedd mwy o frwydro i’w weld ymysg ei gilydd ar y chwiban olaf wrth i Callum Paterson a Leandro Bacuna fynd benben.

Byddai buddugoliaeth wedi codi Caerdydd i’r seithfed safle yn y tabl ond mae tîm Neil Harris yn aros yn ddegfed yn dilyn y golled.

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Sanderson (Bacuna 81’), Morrison, Nelson, Bennett, Vaulks, Pack (Ralls 71’), Hoilett, Paterson, Murphy (Ward 71’), Glatzel

Cerdyn Melyn: Bacuna 82’

.

Nottingham Forest

Tîm: Samba, Cash, Figueiredo, Worrall, Ribeiro, Watson, Yates (Semedo 45’), Ameobi (Diakhaby 81’), Silva (Walker 90+1’), Lolley, Grabban

Gôl: Silva 49’

Cardiau Melyn: Ameobi 70’, Worrall 84’

.

Torf: 21,273