Abertawe 3–1 Middlesbrough                                                      

Daeth rheidad siomedig Abertawe yn y Bencampwriaeth i ben gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Middlesbrough ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Elyrch heb fuddugoliawth yn eu pum gêm gynghrair flaenorol cyn i goliau Ayew (2) a Surridge newid hynny yn erbyn naw dyn Boro.

Aeth Abertawe ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, Andre Ayew’n sgorio o’r smotyn ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Dael Fry.

Felly yr arhosodd hi tan funud cyn yr awr pan unionodd Marcus Tavernier gydag ergyd gadarn yn dilyn symudiad slic.

Os roddodd hynny Middlesbrough yn ôl yn y gêm, wnaeth hi ddim aros felly’n hir wrth i Marcus Browne gael ei anfon oddi ar y cae am dacl fudr ar Mike van der Hoorn.

Adferodd Ayew fantais yr Elyrch yn fuan wedi hynny, yn rhwydo gydag ergyd gadarn wedi pas daclus Barrie McKay i greu’r cyfle.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel wedi i Sam Surridge ychwanegu’r drydedd ddeunaw munud o’r diwedd, yn gorffen yn daclus wedi gwaith creu Jake Bidwell.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Middlesbrough pan ymunodd Paddy McNair â Browne am gawod gynnar ar ôl anelu pen elin at Matt Grimes.

Mae’r tri phwynt yn codi tîm Steve Cooper i’r degfed safle yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, Cabango, van der Hoorn, Bidwell, Byers (Fulton 60’), Grimes, Dhanda (McKay 68’), Aywe, Surridge, Celina (John 72’)

Goliau: Ayew [c.o.s.] 22’, 71’, Surridge 73’

Cardiau Melyn: Cabango 48′, Dhanda 54′

.

Middlesbrough

Tîm: Pears, Howson, Ayala, Fry, Coulson, McNair, Clayton (Browne 51’), Saville (Gestede 76’), Johnson (Wing 82’), Fletcher, Tavernier

Gôl: Tavernier 59’

Cerdyn Melyn: Saville 29′, Browne 52′

Cardiau Coch: Browne 63’, McNair 77’

.

Torf: 14,625