Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e’n disgwyl i’w dîm daro’n ôl yn Leeds heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14) ar ôl colli o 2-1 yn Brentford ganol yr wythnos.
Maen nhw’n teithio i Elland Road i herio’r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth ar ôl saith buddugoliaeth o’r bron.
“Dw i’n rheolwr fydd bob amser yn cefnogi fy chwaraewyr, ond dw i hefyd yn rheolwr gonest a dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n ddigon da am awr y noson o’r blaen,” meddai.
“Roedd hynny’n destun siom, ond rhaid iddyn nhw godi eu safonau’n gyflym eto.
“Pan ewch chi i Elland Road, rhaid i chi gyrraedd y safonau oherwydd mae Leeds yn dîm gwych iawn.
“Y llynedd, roedden nhw’n rhedeg i ffwrdd â’r gynghrair ac fe gwympon nhw wrth y glwyd olaf.
“Eleni, maen nhw i fyny eto ac mae ganddyn nhw un o’r carfanau gorau yn yr adran.”
“Mae’n rhaid i chi ymdopi â Leeds ac mae’n rhaid i chi ymdopi ag Elland Road fel lle a’r awyrgylch.
“Mae’n her wych i ni nawr a dw i’n disgwyl gweld ymateb gan fy chwaraewyr.
“Fe welais i hynny yn yr hanner awr olaf yn Brentford, ond dw i’n disgwyl ei weld e o’r funud gyntaf y tro hwn.”