Fe fydd y Cymro Cymraeg Ben Cabango yn cael rhyddid i chwarae ei gêm ei hun yng nghrys Abertawe, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Dechreuodd yr amddiffynnwr canol 19 oed ei gêm gynghrair gyntaf i’r Elyrch yn erbyn Blackburn nos Fercher, ac mae wedi cael ei ganmol am ei berfformiad.

Fe fydd e’n gobeithio cael cyfle eto yn erbyn Middlesbrough heddiw.

“Doedden ni ddim wedi oedi o gwbl cyn ei ddewis e,” meddai Steve Cooper mewn cyfweliad â golwg360.

“Doedden ni ddim yn poeni o gwbl am ei ddewis e ar y lefel yma ac fe wnaeth e brofi ein bod ni’n iawn.

“Roedd e’n edrych fel pe bai e wedi chwarae tua 50 o gemau’n barod.

“Roedd e’n chwarae yn erbyn ymosodwr profiadol, Danny Graham, ac roedd ambell dro pan wnaeth Danny Graham rywfaint o’i brofiad wrth fynd o’i gwmpas e ond dim byd oedd wedi achosi pryder mawr.

“Dw i’n falch iawn gyda’r ffordd mae Benny yn chwarae ac yn amlwg, mae hynny’n dangos mewn gemau.

“Dyna’r tro cyntaf iddo fe chwarae mewn gêm gynghrair ac ro’n i’n meddwl ei fod e’n wych.”

‘Rhaid i ni roi cyfleoedd iddo fe’

Dim ond tri amddiffynnwr canol sydd gan yr Elyrch yn sgil absenoldeb Joe Rodon, ond mae Steve Cooper yn barod i ystyried ei ddewis e’n rheolaidd, ynghyd â Mike van der Hoorn neu Ben Wilmot, sydd ar fenthyg o Watford.

“Dw i wedi dweud eisoes y bydd e’n dod yn chwaraewr rheolaidd i Abertawe rywbryd y tymor nesaf a’r tymorau canlynol.

“Gorau po gyntaf y gallwn ni roi cyfleoedd iddo fe, fel ei fod e’n dod i arfer â chwarae ar y lefel yma.

“Fe fydd e’n opsiwn da i ni.

“Yn y gynghrair yma, mae disgwyl i chi amddiffyn peli hir, bod yn gystadleuol, symud at y bêl a dechrau ymosod.

“Ond wedyn fe fyddwch chi’n mynd yn erbyn chwaraewr creadigol iawn fel eich bod chi’n cael eich profi’n amddiffynnol mewn sawl ffordd.

“Mae e wedi dechrau’n dda ond dydyn ni ddim eisiau mynd dros ben llestri, a dw i ddim yn meddwl y bydd e chwaith.

“Wna i ddim gadael iddo fe!

“Mae e’n gweithio’n galed i gael ei ddewis fel pawb arall.

“Rydyn ni eisiau i’n hamddiffynwyr canol chwarae gyda’r bêl ac os yw e’n meddwl fod cyfle i ymosod, mae gyda fe ryddid i wneud hynny – dim ond ei fod e’n amddiffyn yn y lle cyntaf!”

Cymeriad diymhongar

Yn ôl Steve Cooper, mae Ben Cabango yn gymeriad diymhongar sy’n debygol o ymdopi’n dda â’r pwysau ar ei ysgwyddau ifainc.

“Mae’n dibynnu’n llwyr ar yr unigolyn,” meddai.

“Mae gyda chi chwaraewyr sy’n torri trwodd yn ifanc ac yn dod yn rhan o’r tîm yn gyflym iawn, yn dod yn adnabyddus ond ddim yn newid o gwbl.

“Mae eraill wedyn yn gorfod cael eu rheoli rywfaint.

“Dw i’n meddwl y bydd Benny yn cadw ei draed ar y ddaear. Mae’n foi hapus, yn gweithio’n galed bob dydd a dw i ddim yn meddwl y bydd e’n newid dim.

“Os yw e, bydda i’n barod i’w atgoffa fe!”

Sylw gan glybiau eraill

Yn ystod ei gyfnod byr gydag Abertawe, mae Ben Cabango wedi denu diddordeb sawl tîm yng nghynghrair y Bundesliga yn yr Almaen.

Ond yn ôl Steve Cooper, fe fydd e’n cael cyfle yng nghrys Abertawe fel nad yw’n teimlo bod angen iddo fe symud er mwyn datblygu ei yrfa.

“Mae e’n gwybod ein bod ni’n ei hoffi fe a dw i’n eitha’ sicr ei fod e’n teimlo’r un fath am fod yma, a’i fod e’n mwynhau ac yn barod i ymroi dros yr achos,” meddai.

“Dw i’n credu bod unrhyw un sy’n chwarae’n dda ar y lefel yma’n cael sylw, yn enwedig os ydyn nhw’n ddigon ifanc fel y byddan nhw’n chwarae am flynyddoedd i ddod.

“Byddwn ni ein hunain yn edrych am chwaraewyr ar gyfer y dyfodol, dyna sut mae’n gweithio.

“Allwch chi ddim osgoi hynny.”

Llwyddiant yr Academi

Ar ôl creu argraff yn gapten ar dîm yr Academi, mae Ben Cabango yn un o griw o chwaraewyr addawol sydd wedi torri trwodd o’r Academi i’r tîm cyntaf, gan ddilyn yn ôl troed chwaraewyr fel Connor Roberts a Joe Rodon.

Yn ôl Steve Cooper, does dim diben cael Academi os nad yw’r chwaraewyr yn cael cyfle i chwarae yn y tîm cyntaf ar ddiwedd eu taith.

“Dydy’r Academi ddim yn elwa os nad oes yna gyfle ar y diwedd,” meddai.

“Mae hynny’n amlwg yn Chelsea, er enghraifft.

“Maen nhw bob amser wedi cael chwaraewyr ifainc arbennig o dda ac un rhwystredigaeth, o bosib, yw na fu cyfle ar y diwedd i chwarae i’r tîm cyntaf.

“Ond mae’r cyfleoedd wedi dod eleni o dan Frank Lampard, ac mae wedi talu ar ei ganfed.

“Mae angen i ni barhau i gredu mewn chwaraewyr ifainc a sicrhau fod undod rhwng y top a’r gwaelod o ran ein llwybrau.

“Mae un peth yn sicr, fel mae Benny wedi gwenud, os gall chwaraewyr ddangos y gallan nhw chwarae ar y lefel yma, fe wnawn ni roi’r cyfle iddyn nhw.”