Mae Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad oes “dim esgus” am homoffobia yn y byd pêl-droed.

Daw sylwadau rheolwr tîm Brighton yn dilyn digwyddiad yn Stadiwm Amex, cartref y tîm, yn ystod wythnos pan oedd Uwch Gynghrair Lloegr yn cefnogi ymgyrch Lasau’r Enfys elusen Stonewall.

Cafodd dau gefnogwr Wolves eu harestio ar amheuaeth o wneud sylwadau homoffobig yn ystod y gêm yr wythnos ddiwethaf, ac maen nhw wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Fe ddigwyddodd ar yr un diwrnod â sylwadau homoffobig yn y gêm rhwng Chelsea ac Everton.

Fe fydd Brighton yn herio Crystal Palace nos Lun (Rhagfyr 16), gyda’r ddau dîm yn elynion pennaf, ond dydy hynny ddim yn esgus am ragor o sylwadau homoffobig, yn ôl Graham Potter.

“Does dim ots pa fath o gêm yw hi, mae’n annerbyniol,” meddai.

“Os ydyn ni eisiau gwneud unrhyw beth ac os ydyn ni am newid unrhyw beth, dylai’r byd pêl-droed fod i bawb, waeth bynnag am ethnigrwydd, daliadau crefyddol neu rywioldeb.

“Mae’n beth trist ein bod ni hyd yn oed yn cael y sgwrs hon.

“Ond fe allwch chi weld mewn nifer o achosion mai dyna’r byd rydyn ni ynddo ar hyn o bryd, ac mae angen i bêl-droed wneud ei orau i geisio arwain y ffordd.”