Mae tîm pêl-droed Cymru’n teithio i Baku i herio Azerbaijan heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 16), gan wybod eu bod nhw’n sicr o gael lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Ewro 2020.

Ond pe baen nhw’n curo Azerbaijan a Hwngari nos Fawrth (Tachwedd 19), fe allen nhw gymhwyso’n awtomatig.

Mae carfan Ryan Giggs wedi cael hwb arall ar drothwy’r gemau allweddol, gyda’r newyddion fod Aaron Ramsey yn holliach ac yn barod i chwarae am y tro cyntaf yn yr ymgyrch.

Pe bai’n cael ei ddewis, hon fyddai gêm gystadleuol gyntaf Aaron Ramsey a Gareth Bale gyda’i gilydd ers 2017.

Ond maen nhw heb Neil Taylor a Danny Ward, sydd wedi tynnu’n ôl am resymau personol, yn ogystal â Joe Allen, sydd wedi’i wahardd, Tom Lawrence (salwch), Jonny Williams a Joe Rodon (anafiadau).

Gallai lle Joe Rodon yng nghanol yr amddiffyn fynd i Chris Mepham, sydd wedi gwella o anaf.

Gobeithion Cymru

Mae buddugoliaeth Sweden o 2-0 dros Rwmania yn golygu bod Cymru wedi sicrhau gêm ail gyfle cyn iddyn nhw gicio pêl heddiw.

Ond pe baen nhw’n ennill y ddwy gêm a Slofacia yn colli pwyntiau yn erbyn Croatia neu Azerbaijan, yna fe fydden nhw’n cymhwyso’n awtomatig.

Mae Cymru’n bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd.

Gemau’r gorffennol yn erbyn Azerbaijan

Mae’n bosib na fydd Cymru’n disgwyl gêm hawdd o edrych ar gemau’r ddwy wlad yn erbyn ei gilydd yn y gorffennol.

Crafu buddugoliaeth wnaethon nhw yng Nghaerdydd ddeufis yn ôl, a hynny wrth i Azerbaijan gipio pwynt hefyd yn erbyn Croatia.

Ar y cyfan, mae’r ddwy wlad wedi herio’i giydd saith gwaith, gyda Chymru’n fuddugol mewn chwe gêm.

Dyma’r pedwerydd tro ers 2002 iddyn nhw fod yn yr un grŵp rhagbrofol.

Mae 63 safle rhwng Cymru (24) ac Azerbaijan (87) ar y rhestr ddetholion.

Ac os bydd angen cyngor ar sut i sgorio goliau, gall Cymru droi yn sicr at Ryan Giggs, oedd wedi sgorio tair gwaith yn eu herbyn nhw yn ystod ei yrfa ryngwladol.