Mae’n rhaid i Gymru ennill i ffwrdd yn erbyn Azerbaijan a gartref yn erbyn Hwngari er mwyn cadw eu gobeithion o ennill lle awtomatig yn Ewro 2020 yn fyw.

Byddai ennill y ddwy gêm yn sicrhau safle yn y ddau uchaf i Gymru, oni bai bod Slofacia yn cymryd chwe phwynt o’u dwy gêm olaf hefyd.

Os na fydd Cymru yn y ddau uchaf, maen nhw bron yn sicr o fod yn y gemau ail-gyfle fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Mae gennym garfan gyfan o chwaraewyr sydd eisiau cymryd pob cyfle i chwarae dros ei gwlad,” meddai Ben Davies, amddiffynnwr Cymru.

“Rydym ni mewn lle da fel carfan, ond cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn dyw’r gêm dydd Mawrth nesaf ddim yn bodoli.

“Mae’r ffocws i gyd ar ennill y gêm gyntaf. Dyw’r gêm yn erbyn Hwngari yn golygu dim byd os na wnawn ni ennill y penwythnos hwn.”