Cafodd merched Cymru gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gogledd Iwerddon neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 12).

Daw’r canlyniad fel ergyd i obeithion tîm Jayne Ludlow o orffen ar frig Grŵp C yn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2021.

Dylai Cymru fod wedi sgorio yn ystod yr ail hanner pan gafodd Angharad James ei hun un-i-un yn erbyn golwr Gogledd Iwerddon, Rebecca Flaherty, ond gwnaeth hi arbed ei hergyd.

Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp C, bedwar pwynt y tu ôl i Norwy – tîm fydd yn rhaid i Gymru chwarae yn eu herbyn ddwywaith cyn diwedd yr ymgyrch.

Anafiadau yn effeithio gobeithion Cymru

Mae Jayne Ludlow a Chymru wedi bod yn anlwcus o ran anafiadau drwy gydol yr ymgyrch.

Mae’r chwaraewr canol cae Jess Fislock wedi methu’r holl ymgyrch gydag anaf i’w phen-glin.

Collodd Rachel Rowe y ddwy gêm gyntaf, tra bod eu capten Sophie Ingle wedi methu’r drydedd gêm yn erbyn Belarus.

Ac ar gyfer y gêm hon roedd Cymru heb eu prif sgoriwr Natasha Harding.