Mae penderfyniad Clwb Pêl-droed Barnsley i ddiswyddo’r rheolwr Daniel Stendel yn ddiweddar yn peri “ansicrwydd” i Abertawe cyn eu gêm yn Oakwell ddydd Sadwrn (Hydref 19), yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.
Adam Murray, y rheolwr dros dro, fydd yng ngofal y tîm sydd un safle o waelod y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw groesawu’r Elyrch, sy’n bedwerydd ac yn mwynhau bywyd ar ben arall y tabl.
Ond mae Steve Cooper yn cyfaddef y gallai unrhyw beth ddigwydd, a bod rhaid bod yn barod am yr annisgwyl yng ngêm gyntaf Adam Murray wrth y llyw ar ôl y ffenest ryngwladol.
“Mae’n anodd darogan unrhyw beth, ac mae’n rhaid i chi ddyfalu i raddau,” meddai Steve Cooper wrth golwg360.
“Byddwn ni’n canolbwyntio ar ein perfformiad a’n cynlluniau ni a sut rydyn ni eisiau chwarae oherwydd os gallwn ni roi hynny ar waith yn y gêm, rydyn ni’n credu fod y cynllun hwnnw, gyda’r bêl a hebddi, yn ddigon da i ni wneud yn iawn.
“Ond ar yr un pryd, mae’n fater o barchu sefyllfa’r gwrthwynebwyr hefyd.
“Fe allwch chi wynebu tîm, fel ein gêm flaenorol [yn erbyn Stoke], sydd wedi cael canlyniadau gwael, neu fe allwch chi wynebu tîm sydd wedi ennill ac sy’n chwarae’n dda. Mae yna gyd-destun i bob gêm.
“Ond gyda hynny, rhaid canolbwyntio ar ein gêm nesaf ni ein hunain.”
Rheolwr poblogaidd
Yn groes i’r disgwyl, efallai, ac er gwaetha’r sefyllfa mae Barnsley ynddi ar hyn o bryd, roedd Daniel Stendel yn reolwr poblogaidd hyd y diwedd.
Cafodd hynny ei fynegi’r diwrnod ar ôl ei ddiswyddo, wrth i’r cefnogwyr drefnu parti ffarwél iddo mewn tafarn yn Barnsley – digwyddiad sydd wedi cael cryn sylw dros y dyddiau diwethaf.
Dim ond unwaith mae’r Elyrch wedi colli oddi cartref y tymor hwn, ac mae’n bosib y bydd cefnogwyr Barnsley yn dangos eu hanfodlonrwydd ynghylch y penderfyniad i ddiswyddo Daniel Stendel.
Ond dydy’r diswyddiad ddim o reidrwydd yn beth da i’r Elyrch, yn ôl Steve Cooper.
“Fe allai ysgogi’r chwaraewyr, y cefnogwyr a’r clwb i gefnogi tîm Barnsley ac edrych tua’r dyfodol,” meddai.
“Ond dw i ddim yn credu y gallwn ni ganolbwyntio’n ormodol ar hynny oherwydd byddai’n golygu nad ydyn ni’n canolbwyntio arnon ni’n hunain.
“Fel dw i’n ei ddweud bob wythnos, dylen ni ganolbwyntio’n unig ar y pethau y gallwn ni eu rheoli, sef ein perfformiadau.
“Fyddwn i ddim yn dweud ei bod hi’n [sefyllfa] anodd, ond mae yna elfen o ansicrwydd wrth newid rheolwr neu ar ôl egwyl ryngwladol, felly rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei gyfrannu at y gêm.”