Mae pryderon y gallai David Brooks fod allan am weddill ymgyrch ragbrofol Cymru i gyrraedd Ewro 2020.

Mae’r chwaraewr ymosodol 22 oed yn parhau i wella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ffêr.

Roedd disgwyl y byddai allan am hyd at dri mis, a’r gobaith oedd y byddai ar gael i wynebu Azerbaijan a Hwngari ganol mis Tachwedd.

Ond mae’n annhebygol bellach y bydd e wedi gwella mewn da bryd ar gyfer y gemau.

“Pa un a fydd e’n chwarae neu’n ymarfer [erbyn mis Tachwedd], dw i ddim yn gwbl sicr,” meddai Ryan Giggs, rheolwr Cymru.

“Hyd yn oed os yw e ar y fainc neu’n ffit i Bournemouth yr wythnos gynt, bydd yn anodd i’w ddewis oherwydd ei fod e wedi bod allan cyhyd.”

Bydd Cymru’n herio Slofacia oddi cartref ddydd Iau (Hydref 10) cyn croesawu Croatia i Gaerdydd ddydd Sul (Hydref 13).

Mae Cymru bedwar pwynt y tu ôl i Croatia, a thriphwynt y tu ôl i Slofacia a Hwngari, ar ôl chwarae un gêm yn llai na’u gwrthwynebwyr.