Bydd Caernarfon yn herio’r Seintiau Newydd heno am 7:45 yr hwyr.

Mae’r Caneris wedi ennil tair o’u pedair gêm ddiwethaf tra bo’r Seintiau Newydd wedi colli o un gôl i ddim yn erbyn Y Barri yr wythnos ddiwethaf.

Ond er ei fod yn derbyn bod gwynebu Caernarfon yn yr Oval yn her, mae rheolwr y Seintiau Newydd Scott Roscoe yn teimlo’n hyderys cyn y gêm.

“Rydym wastad yn hyderus,” meddai Scott Roscoe, “rydan ni’n ymdrechu i ennill pob gêm oherwydd ni yw’r tîm gorau yn y gynghrair a ganddo ni mae’r chwaraewyr gorau.

“Mae Caernarfon yn dîm da ac yn beryg tra’n gwrthymosod. Wnaethon ni ennill o dair gôl i ddim yno’r tymor diwethaf, ond heb os roeddem yn lwcus i beidio ildio gôl oherwydd fe gafodd Caernarfon sawl cyfle da i sgorio.”

Byddai buddugoliaeth i Gaernarfon yn eu gweld yn mynd yn gyfartal â’r Seintiau Newydd o ran pwyntiau.