Fe fydd cefnogwyr Cymru yn cael gwylio’r gêm yn erbyn Slofacia ar Hydref 10 yn dilyn apêl lwyddiannus yn erbyn penderfyniad dadleuol UEFA i wahardd cefnogwyr o’r stadiwm.

Roedd UEFA wedi cyflwyno’r gosb yn dilyn ymddygiad hiliol gan gefnogwyr Slofacia yn y gêm yn erbyn Hwngari ar Fedi 9.

Mae’r corff wedi cael ei feirniadu’n hallt yn ystod y dyddiau diwethaf, gyda nifer yn ei gweld hi’n annheg cosbi cefnogwyr Cymru yn yr un ffordd â chefnogwyr Slofacia.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bore yma (dydd Iau, Medi 26) bod Slofacia wedi llwyddo i apelio yn erbyn penderfyniad UEFA, a oedd hefyd yn cynnwys dirwy gwerth 20,000 euro.

Mae disgwyl i fwy na 2,000 o gefnogwyr Cymru fod yn bresennol yn y gêm yn Trnava.