Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn disgwyl “gêm anodd” wrth i’r Elyrch geisio ymestyn eu rhediad di-guro o 12 gêm gynghrair yn Stadiwm Liberty – y rhediad gorau ers 2011.

Mae’r tîm yn ddi-guro ym mhob gêm o dan y rheolwr o Bontypridd hyd yn hyn, a heddiw yn wynebu tîm Preston, a oedd wedi curo Wigan o 3-0 yr wythnos ddiwethaf.

Ar y llaw arall, mae Preston heb fuddugoliaeth mewn 17 o gemau yn Abertawe.

“Rydyn ni’n sicr am barhau â’r record honno oherwydd os gallwch chi fod yn gryf gartref, all hynny ond bod yn beth da,” meddai Steve Cooper ar drothwy’r gêm.

“Ond rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n rheoli’r hyn sydd o’n blaenau ni.

“Dim ond os nad ydych chi’n cymryd yn ganiataol eich bod chi’n mynd i ennill gêm bêl-droed oherwydd eich bod chi gartref y gallwch chi gadw’r peth i fynd.”

Mae gan Steve Cooper garfan lawn i ddewis ohoni, ac eithrio Tom Carroll, y chwaraewr canol cae sy’n parhau i wella o anaf i’w goes wrth chwarae i’r tîm dan 23 ar hyn o bryd.

Fe ddylai’r ymosodwr Aldo Kalulu fod yn holliach er nad oedd e ar gael i herio Northampton yng Nghwpan Carabao nos Fawrth.

O ran y gwrthwynebwyr, fydd yr ymosodwr David Nugent ddim ar gael oherwydd anaf i’w goes.

Ystadegau allweddol

Mae Preston wedi colli wyth allan o’r 11 gêm flaenorol yn erbyn Abertawe ym mhob cystadleuaeth, gan ennill dwy yn unig, a’r llall yn gorffen yn gyfartal.

Chwarter awr ola’r gêm sydd fel arfer yn allweddol i’r Elyrch, a does neb wedi wynebu mwy o ergydion yn y cyfnod hwnnw na’r Cymry – ond dwy ergyd ar gyfartaledd yw record Preston yn ystod yr un cyfnod y tymor hwn.

Unwaith yn unig mae Preston wedi ennill gêm gynghrair yng Nghymru yn eu 13 ymweliad diwethaf – a honno’n dod yn erbyn Caerdydd ym mis Rhagfyr 2017.

Dim ond dwywaith mae Alex Neil, rheolwr Preston, wedi ymweld â Stadiwm Liberty ac mae e wedi colli o 1-0 y ddau dro.