Mae’r Cymro ifanc Daniel James yn dweud bod galaru am ei dad yn ei sbarduno i chwarae ar ei orau yng nghrys Manchester United.

Yr asgellwr oedd y chwaraewr cyntaf i ymuno â’r clwb yn dilyn penodi Ole Gunnar Solskjaer yn rheolwr, ond fe ddaeth y trosglwyddiad ar adeg pan oedd e newydd golli ei dad Kevan yn ddisymwth yn 60 oed.

“Dw i’n gweld ei eisiau fe bob dydd,” meddai.

“Roedd e bob amser yn fy sbarduno pan oedd e yma, a dw i’n gwybod ei fod e’n edrych i lawr arna’i nawr, ac yn fy ngwthio yn fy mlaen.

“Mae yna adegau pan dw i’n teimlo’n isel am y peth, ond yr hyn fyddai e’n ei ddweud yw i barhau i chwarae ac i weithio’n galed.”

Dechrau da

Mae’r asgellwr 21 oed yn creu argraff ers symud i’w glwb newydd, ac yntau ond wedi chwarae i Abertawe am y tro cyntaf fis Chwefror y llynedd.

Cafodd ei enwi’n seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Perth Glory, ac fe berfformiodd e’n gryf yn y fuddugoliaeth o 4-0 dros Leeds, ac yna yn y golled yn erbyn Inter Milan.

“Breuddwyd bechgyn yw chwarae i Manchester United, ac mae dod yma ychydig yn swreal,” meddai.

“Rydych chi’n gweld faint o gefnogwyr sydd yma a pha mor bell mae rhai ohonyn nhw wedi teithio i’n gweld ni.

“Mae’n mynd i gymryd sbel i ddod yn gyfarwydd â hynny.”