Mae na ddyfalu bod dyfodol Gareth Bale gyda Real Madrid ar fin dod i ben.

Fe wyliodd y Cymro o’r fainc neithiwr (Nos Sul, Mai 20) wrth i’w dim gael eu trechu 2-0 gartref yn erbyn Real Betis yng ngêm olaf tymor y La Liga.

Yn dilyn y chwiban olaf, cerddodd yr asgellwr, 29, yn syth oddi ar y cae ac i lawr y twnnel heb gydnabod y cefnogwyr anhapus.

Dyma’r 12fed tro i glwb y Bernabeu gael eu trechu yn y gynghrair y tymor hwn.

Mae’r cyfryngau yn Sbaen wedi bod yn adrodd ers peth amser nad oes dyfodol i Gareth Bale o dan y rheolwr Zinedine Zidane yn y brifddinas.

Ni chafodd y Cymro – a gafodd ei adael allan o’r garfan yn erbyn Real Sociedad y penwythnos diwethaf – gyfle i chwarae am y tro olaf yn stadiwm y Bernabeu ddoe.

Ansicrwydd

 Wrth siarad gyda’r cyfryngau ar ôl y gêm, dywedodd y rheolwr Zinedine Zidane nad oes “unrhyw un yn gwybod beth sydd am ddigwydd.”

“Rwy’n teimlo os nad yw chwaraewr yn ffitio yn y tîm, mae’n rhaid i mi wneud beth sydd yn gweithio orau.”

Yn ôl cyn-lywydd Real Madrid, Ramon Calderon, mae’n “amhosib” i Gareth Bale aros yn stadiwm y Bernabeu oherwydd ei berthynas gyda Zinedine Zidane.

“Tydi Zinedine ddim yn hoff iawn ohono; mae’n berthynas sydd am ddod i’w derfyn,” dywed Ramon Calderon wrth BBC Sport Wales.

Fe gyrhaeddodd y Cymro yn y Bernabeu o Tottemham chwe blynedd yn ôl am ffî o £85m.