Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi canmol ysbryd ei dîm ar ôl datgelu ei fod e wedi rhybuddio’r chwaraewyr i ddangos eu hochr gas wrth frwydro’n ôl i guro Blackburn.

Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi o 1-0 yn gynnar yn y gêm yn Stadiwm Liberty nos Fawrth, ar ôl i Adam Armstrong fylchu i lawr yr asgell i achosi’r Elyrch i ildio cic o’r smotyn wrth i Kyle Naughton dynnu Amari’i Bell i lawr.

Sgoriodd y capten Charlie Mulgrew o’r smotyn i roi ei dîm ar y blaen.

Ond brwydrodd yr Elyrch yn ôl i sicrhau buddugoliaeth o 3-1 sy’n eu codi i’r wythfed safle, ar gyrion y safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth.

Y chwaraewyr canol cae Leroy Fer a Jay Fulton wnaeth y gwahaniaeth i’r Elyrch wrth ychwanegu elfen gorfforol i’r gêm.

A sgoriodd Jay Fulton chwip o gôl o’r tu allan i’r cwrt cosbi ar ôl 64 munud.

Dyblodd yr Elyrch eu mantais bedair munud yn ddiweddarach wrth i Connor Roberts rwydo i gornel y gôl.

Bum munud cyn diwedd y gêm, roedd y triphwynt yn ddiogel wrth i Bersant Celina rwydo dros ben y golwr David Raya.

‘Angen newid ymddygiad’

Ar ôl y gêm, dywedodd Graham Potter, “Roedd angen i ni newid ein hymddygiad ar y cae, ac roedd angen i ni godi ein dwyster.

“Ro’n i’n credu ein bod ni’n rhy neis yn yr hanner cyntaf, felly fe wnaethon ni godi’r pwynt hwnnw a pheidio â dweud lot fawr fel arall.

“Mae’r chwaraewyr yn fois da ac maen nhw’n dysgu. Dydy hi ddim fel pe bai gyda ni grŵp llawn o chwaraewyr 28 oed yn y Bencampwriaeth sydd â gwerth 300 o gemau o brofiad y tu cefn iddyn nhw.

“Maen nhw’n grŵp sydd angen dysgu ac er cymaint ry’n ni am chwarae pêl-droed neis ac ennill, mae angen i chi gael rhywfaint o boen a dioddefaint.

“Un peth alla i fyth cyhuddo’r chwaraewyr ohono fe yw bod yn anonest. Maen nhw’n grŵp gonest. Maen nhw’n grŵp sydd wedi bod ar rediad eitha’ gwael o un fuddugoliaeth yn unig mewn saith gêm, felly mae yna rywfaint o nerfau o gwmpas y lle ac roedd hynny’n amlwg, oherwydd doedden nhw ddim yn nhw eu hunain yn yr hanner cyntaf.”