Mae tîm pêl-droed Casnewydd yn herio Port Vale oddi cartref heddiw (dydd Sadwrn, 3 o’r gloch) wrth iddyn nhw geisio dod dros y siom o fynd allan o Gwpan Carabao ddechrau’r wythnos.

Collodd y Cymry yn erbyn Rhydychen yr wythnos hon – y golled gyntaf gartref ers mis Ebrill.

Ond dydy’r Cymry ddim wedi curo Port Vale ers 1987. Maen nhw’n wynebu tîm heddiw sy’n ddi-guro yn y gynghrair y tymor hwn.

Dywedodd Mike Flynn, “Mae hi bob amser yn anodd mynd i Port Vale felly mi  fydd hi’n gêm anodd – fel pob gêm yn yr Ail Adran.

“Mi fydd hi’n frwydr ac os nad ydyn ni’n ennill y brwydrau hynny nac yn amddiffyn nac yn ymosod yn y ddau gwrt, yna byddwn ni fwy na thebyg yn colli’r gêm bêl-droed.

“Dw i’n chwilio am ymateb gan fy chwaraewyr a mwy o safon na’r hyn ddangoson ni nos Fawrth.”

Mae Casnewydd wedi sicrhau 10 pwynt allan o’r 12 pwynt diwethaf yn y gynghrair.