Mae rheolwr tîm pêl droed Cymru wedi dweud ei fod yn ffyddiog bod gan Gareth Bale y gallu i gymryd mantell Cristiano Ronaldo yn brif chwaraewr ei glwb.

Ers i’r Portiwgead adael Real Madrid am Juventus dros yr haf, y chwaraewr o Gymru y prif flaenwr y clwb o Sbaen.

Ac er bod Gareth Bale wedi chwarae’n dda hyd yma – sgoriodd yn ystod ei gêm gyntaf yng nghynghrair La Liga – mae disgwyl i’r chwaraewr fod dan ragor o bwysau o hyn ymlaen.

Ond, wfftio pryderon y mae’r rheolwr, Ryan Giggs, sy’n dadlau bod gan Gareth Bale ddigon o allu i ysgwyddo’r baich ychwanegol.

Ymdopi

“Mae llenwi rôl Cristiano yn dipyn o her, ond mae gan Gareth y profiad,” meddai Ryan Giggs. “Bob blwyddyn mae yna bwysau arno fe, ac mae e wedi ymdopi â hynny’n wych.

“Fe fydd pethau ychydig yn wahanol eleni oherwydd bod Cristiano wedi gadael, a bydd mwy o ffocws ar y chwaraewyr a fydd yn gorfod camu i’r adwy.

“Ond, mewn gêmau mawr, mae Gareth wedi dangos ei fod yn chwaraewr o ansawdd uchel. Ac mae wedi profi ei fod yn gallu delio â phob her.”