Mae un o gefnogwyr Clwb Dinas Caerdydd wedi’i wahardd rhag mynd i gemau am dair blynedd, wedi iddo deithio i Derby ym mis Ebrill eleni am ymosod ar blismon.

Fe gafodd Mark Underwood, 41, o Landaf ei arestio am ymosod ar heddwas yn ystod y gêm Bencampwriaeth ar Ebrill 24, ac fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon De Swydd Derby i rwystro heddwas.

Mae wedi’i orchymyn i dalu £85 o gostau, ffi ychwanegol o £20, yn ogystal â chael ei wahardd o gemau pêl-droed am dair blynedd.

Roedd uned bêl-droed Heddlu Swydd Derby wedi galw’n benodol am iddo gael ei wahardd.

“Gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pob cefnogwr, gartref neu oddi cartref, fod Derby yn lle y gallwch chi ddod i fwynhau eich hunain,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Ond, os ydych chi’n dod yma yn benderfynol o dorri’r gyfraith neu achosi anhrefn, yna fe fyddwch chi yn cael eich cosbi.”