Mae ffisiotherapydd clwb pêl droed Aberystwyth gydag wythnos brysur o’i blaen.

Fe fydd Ffiona Evans yn teithio i Belffast am bum niwrnod gyda charfan datblygu merched Cymru, ac yna’n gweithio tuag at gêm rownd gyn-derfynol Aberystwyth yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sul.

Hi yw ffisiotherapydd clybiau pêl-droed Aberystwyth, Penryncoch ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, heb sôn am y ffaith ei bod hi hefyd yn chwarae pêl-droed i dîm merched Aberystwyth.

Cyfuno’r ddau

“Rwy’ i wastad yn fascinated gyda’r anatomy a sut mae’r corff yn gweithio ac yn mwynhau chwaraeon, felly pam ddim cyfuno’r ddau?” meddai wrth golwg360. 

Sa’ i’n gwbod lle rwy’n cael yr amser i wneud pob dim… rwy’n ffaelu dweud ’na’ wrth neb, felly dyna pam ddim lot o amser sbâr da fi, rwy’n credu.

“Mae hi’n neis gweld mwy o ferched yn y maes,” meddai Ffiona Evans wedyn, am ei gwaith ffisio y tro hwn.

“Mae’n dangos bod y maes ddim yn 100% male-orientated rhagor. Ni’n gwneud yr un swydd a’r dynion felly pam lai. A chwarae teg i Eva Carneiro (ffisiotherapydd clwb dynion Chelsea yn Uwch Gynghrair Lloegr) am sefyll lan drosti’i hunan a ddim cael ei gwthio obeutu’r lle (gan y cyn-reolwr, Jose Mourinho).”

Trin anafiadau

“Mae ychydig o bwysau i wneud siŵr bod y chwaraewyr i gyd yn iawn i chwarae bob wythnos. Ambell waith, r’yn ni o dan bwysau i gael trin anafiadau fel bod nhw’n ôl mor glou ag sy’n bosib.

“Mae tipyn o gyfrifoldeb arnom ni fel therapyddion, gan fod iechyd ac ambell waith bywydau chwaraewyr i gyd yn ein dwylo ni, pwynt mai rhai pobol ddim cweit yn deall bob tro.

“Dim jyst troi lan gyda bag i eistedd ar y fainc ydyn ni!”

Rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru

Fe fydd Y Drenewydd yn herio Aberystwyth ddydd Sul (Ebrill 8), gyda’r gic gyntaf am hanner dydd.