Wrth i’r enwau gael eu tynnu o’r het ar gyfer wyth olaf Cwpan Cymru, gwobr Penydarren, y clwb o Ferthyr Tudful, yw taith i’r gogledd i wynebu Bangor yn Nantporth.
Fe fydd Bangor yn falch o fod gartref ar ôl i Lanrhaeadr ym Mochnant eu gwthio reit i’r pen yn y gêm ddydd Sadwrn diwethaf, lle’r oedd Bangor yn fuddugol o 3-2.
“Roedden ni eisiau clwb mawr ac rydan wedi llwyddo, hon bydd y gêm fwyaf erioed yn hanes y clwb, rydan yn edrych ymlaen rŵan at y gêm fis Fawrth,” meddai llefarydd ar ran Penydarren.
Gemau eraill
Mae Llandudno gartref i’r Drenewydd o’r Uwch Ggynghrair, ac mae rheolwr Y Drenewydd, Chris Hughes, yn falch o fod yn yr wyth olaf ar ôl curo’r Fflint oddi gartref ddydd Sadwrn ar ôl ciciau o’r smotyn.
“Pwy bynnag roedden yn cael yn y rownd hon oedd am fod yn gêm galed. Roedd y gêm yn erbyn Fflint yn galed, oherwydd yr amodau, ond y peth pwysicach ydy bod ni drwodd,” meddai wrth golwg360.
“Mae Llandudno yn dîm rydan yn gyfarwydd á, ac rydan yn chwarae nhw penwythnos hon, ond gennym bedwar gêm cyn y rownd nesaf, ar obaith yw byddan ar rediad da o ganlyniadau i fynd a ni mewn i’r gêm gwpan.”
Derbi a gobaith
Bydd gêm dderbi rhwng Aberystwyth, wrth iddyn nhw deithio i Sir Gâr i wynebu Caerfyrddin – ac mae disgwyl torf eithaf ar Barc Waun Dew.
Bydd enillwyr Porthmadog, Cei Connah yn wynebu’r Seintiau Newydd a gydag un o rain am fynd allan bydd y clybiau eraill llawn gobaith mai hon fydd eu blwyddyn nhw.
Gemau i’w chwarae Mawrth 3-4
Caerfyrddin v Aberystwyth
Llandudno v Y Drenewydd
Cei Connah v Y Seintiau Newydd
Bangor v Penydarren BGC