Oherwydd “amgylchiadau amhosib eu rhagweld”, mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi canslo bob defnydd o’r Stadiwm a chyfleusterau 3G ar safle Nantporth.

Mae’r clwb wedi rhyddhau datganiad yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi.

Ond mae ad-drefnu wedi bod ar y bwrdd hefyd, gyda’r Cadeirydd, Gordon Craig, ac Ysgrifennydd y cwmni, Nick Wood, yn gadael eu swyddi yn syth bin.

Ar hyn o bryd mae’r clwb yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Does dim gemau yn yr Uwch Gynghrair am bythefnos, ond mae Bangor yn chwarae Llanrhaeadr-ym-Mochnant yng Nghwpan Cymru oddi cartref ddydd Sadwrn nesaf, Ionawr 27.