Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe wedi gwrthod beio’r dyfarnwr a’i gynorthwywyr am y golled yn erbyn Spurs yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Fawrth).
Collodd yr Elyrch o 2-0 ar ôl sawl penderfyniad dadleuol, cyn i’r cyn-ymosodwr Fernando Llorente ddychwelyd i roi siom i Abertawe, ac yntau wedi symud i ogledd Llundain o dde Cymru dros yr haf a heb sgorio yn yr Uwch Gynghrair i’w glwb newydd tan neithiwr.
Peniodd gic rydd gan Christian Eriksen i gefn y rhwyd, ond roedd lluniau’r teledu’n dangos bod yr ymosodwr yn camsefyll ar y pryd – ac roedd y penderfyniad i roi cic rydd am dacl flêr yn un dadleuol yn y lle cyntaf.
Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe ar waelod y tabl, bedwar pwynt islaw’r safleoedd diogel.
“Pawb yn gwneud camgymeriadau”
“Dw i wedi cyrraedd yr Uwch Gynghrair, a fydda i ddim yn dechrau siarad am ddyfarnwyr,” meddai Carlos Carvalhal. “Mae dau beth y galla’ i siarad amdanyn nhw. Un, roedd y llumanwr wedi ymddiheuro ar ddiwedd y gêm.
“Dw i’n deall mai camgymeriad oedd e. Dw i’n gwneud camgymeriadau, mae pawb ohonom yn gwneud camgymeriadau. Mae’n iawn.”
Ar ôl i Davinson Sanchez weld cerdyn melyn am y dacl, fe gafodd ei dynnu oddi ar y cae gan reolwr Spurs, Mauricio Pochettino.
“Yr ail bwynt, mae Pochettino yn rheolwr clyfar oherwydd fe wnaeth e eilyddio Sanchez yn y foment honno. Mae e’n glyfar, mae e’n gwybod pam ei fod e wedi ei eilyddio fe. Ar ôl hyn, dw i ddim eisiau siarad am ddim byd.”