Ar drothwy gêm Abertawe yn erbyn Everton ar Barc Goodison, mae prif hyfforddwr yr Elyrch wedi datgan ei siom na chafodd fod yn rhan o dîm hyfforddi ei wrthwynebydd, Sam Allardyce pan oedd yn rheolwr ar dîm pêl-droed Lloegr.

Roedd Paul Clement yn is-reolwr Bayern Munich pan gafodd Sam Allardyce ei benodi i brif swydd Lloegr, ac fe aeth Cymdeithas Bêl-droed at y clwb Almaenig i ofyn am ganiatâd i drafod y swydd.

Ond ac yntau’n is-reolwr Carlo Ancelotti, dywedodd Bayern Munich nad oedden nhw’n fodlon iddo adael y clwb.

Dywedodd Paul Clement: “Roedden ni mor agos at gael cydweithio, ond dywedodd Bayern ‘Na’.”

Eglurodd mai swydd ran amser oedd yn cael ei thrafod, ac na fyddai wedi gadael Bayern Munich er mwyn derbyn y swydd.

“Ro’n i’n deall pam fod Bayern wedi dweud ‘Na’. Roedden nhw eisiau i fi ganolbwyntio ar Bayern yn unig ac mae hynny ond yn iawn gyda chlwb mor fawr.

“Ond ro’n i wedi fy siomi oherwydd byddai wedi bod yn anrhydedd fawr cael gweithio gyda’r tîm cenedlaethol.”

Canu clodydd ‘Big Sam’

Tra bydd Paul Clement yn arwain yr Elyrch nos Lun, Craig Shakespeare fydd yn sefyll yn ymyl Sam Allardyce ar fainc Everton.

Ac mae prif hyfforddwr yr Elyrch wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo ag Allardyce ar ôl iddo gael ei ddiswyddo gan Loegr ar ôl dim ond 67 diwrnod.

“Ro’n i wedi fy siomi ar ran Sam.

“Roedd e wedi egluro dros y blynyddoedd fod swydd Lloegr yn un roedd e wir ei heisiau.

“Ond wedyn fe gafodd ei thynnu oddi arno ar ôl un gêm yn unig – yn gyfiawn ai peidio – ac roedd hynny’n anodd i’w weld.”

Ond dywedodd fod gan Sam Allardyce “hyder sy’n treiddio i’r chwaraewyr”.

Gemau’r gorffennol

Sam Allardyce oedd wrth y llyw yn Crystal Palace yng ngêm gyntaf Paul Clement wrth y llyw yn Abertawe, a’r Elyrch oedd yn fuddugol bryd hynny o 2-1.

Y canlyniad hwnnw oedd y dechreubwynt i ymdrechion y prif hyfforddwr newydd i achub yr Elyrch a’u cadw yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Mae’r Elyrch mewn sefyllfa debyg unwaith eto’r tymor hwn, ac fe fydd rhaid i Paul Clement dynnu ar ei brofiadau yn y gêm honno y tymor diwethaf er mwyn sicrhau triphwynt unwaith eto yn erbyn tîm sy’n cynnwys dau gyn-Alarch, Gylfi Sigurdsson ac Ashley Williams.