Mae dyfarnwyr yn rhan bwysig o unrhyw gêm, mae angen croen dew i fod yn un gyda’r holl feirniadu maen nhw’n ei gael, ac mae nifer o gemau yn cael eu gohirio oherwydd prinder, felly pam bod yn ddyfarnwr?

Bu Golwg360 yn cwrdd â dyfarnwr o Uwch-gynghrair Cymru i gael gwybod pam.

Mae Bryn Markham-Jones yn hanu o Wrecsam ond nawr yn byw yn Abertawe ers 2012.

“Mi wnes ddechrau dyfarnu yn ardal Wrecsam wrth astudio am fy lefel A. Roedd dau ffrind wedi cwblhau’r cwrs ac roedden nhw’n dweud wrtha i  ei fod yn ddiddorol. Er hynny oedd gennai ddim uchelgais i fod yn ddyfarnwr ond ar ôl cwblhau’r cwrs a chael sgwrs gyda’r hyfforddwr wnes i benderfynu dyfarnu gemau ieuenctid.

“Fy ngem gyntaf oedd Queens Park – Acrefair o dan-12. Mi wnes barhau i ddyfarnu gemau ieuenctid am rai misoedd cyn dechrau gyda phêl-droed oedolion fel dyfarnwr cynorthwyol, cyn bod yn ddyfarnwr. Fy ngêm gyntaf ar y lefel hon oedd ail dîm Borras yn erbyn Coedpoeth yng Nghynghrair Cenedlaethol Cymru.”

Dyfarnu dramor

“Y peth gorau am ddyfarnu ydy’r cyfleon, gall rhywun ddyfarnu dramor cyn mynd ar y rhestr ryngwladol. Fy ngêm gyntaf tu allan i Gymru oedd yng Ngogledd Iwerddon fel rhan o raglen gyfnewid y Gymdeithas Bêl-droed. Fy ngem gyntaf rhyngwladol oedd gyda UEFA fel y pedwerydd swyddog yn San Marino yn 2012.

“Rwyf wedi bod ar y rhestr ryngwladol ers pum mlynedd rwan, ac yn ffodus i ymweld a 27 o wledydd, peth arall yw bod chi’n ymweld â gwledydd buasech chi byth yn meddwl heblaw am fynd yna â phêl droed. Mae’r  gwledydd hyn yn arbennig gydag atgofion bythgofiadwy, sef Ynysoedd Faroe, Azerbaijan, Belarus a Kazhakstan.

“Peth arall arbennig ydy’r bobl rydan ni’n cyfarfod. Rwy’n ffodus fy mod wedi dyfarnu rhai o chwaraewyr gorau’r byd, sef Petr Cech yn 2013 pan oedd yn un o’r golwyr gorau yn y byd, tîm pêl-droed Sbaen mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd oedd yn cynnwys Sergio Ramos, Pique, David Silva, a mynd i Ffrainc i ddyfarnu eu gêm olaf cyn Ewro 2016.”

Gemau cenedlaethol

“Un gêm sy’n aros yn y cof ydy’r gêm rhwng Gweriniaeth Tsiec a Chanada yn 2013, dyma oedd fy ngêm gyntaf rhyngwladol A, mae dyfarnu gemau cenedlaethol yn arbennig achos mae’r chwaraewyr o’r safon uchaf ac mae wir yn teimlo fel fy mod wedi cyflawni rhywbeth fel dyfarnwr. Roedd Petr Cech yn gapten, a wnes erioed feddwl pan roeddwn yn dechrau dyfarnu yn 16 buaswn yn dyfarnu gêm gydag un o’r chwaraewyr gorau’n y byd 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n profi bod rhywbeth yn bosib.

“Fy uchelgais rŵan ydy symud i’r lefel nesaf o fewn pêl-droed Ewropeaidd a dyfarnu gemau clybiau a rhyngwladol. Un diwrnod buaswn wrth fy modd yn arwain chwe swyddog mewn gêm Cynghrair Ewrop yn dilyn y dyfarnwr arall  o Gymru Lee Evans ond, mae’n bwysig i gymryd un cam ar  y tro.”