Idwal Robling (llun y BBC)
Mae cyn sylwebydd chwaraeon BBC Cymru, Idwal Robling, wedi marw yn dilyn salwch byr.

Mae’r BBC wedi talu teyrnged i’r sylwebydd radio a theledu a bu farw yn 84 oed.

“Roedd Idwal Robling wedi gweithio i BBC Chwaraeon Cymru ers 40 mlynedd, sy’n gyfnod anhygoel, ac roedd wedi cwrdd gyda’r safonau uchel yr oedd wedi ei osod i’w hun bob tro,” meddai pennaeth chwaraeon BBC Cymru, Geoff Williams.

“Roedd yn ysbrydoliaeth i ni u gyd ac fe fyddwn ni’n gweld ei eisiau. R’yn ni’n anfon ein cydymdeimladau at y teulu.”

Dechreuodd Idwal Robling ei yrfa gyda BBC Cymru yn y 1960au ac fe enillodd cystadleuaeth i fod yn rhan o dîm sylwebu’r gorfforaeth ar gyfer Cwpan y Byd 1970 gan guro Ian St John yn y rownd derfynol.

Chwaraeodd Idwal Robling bêl droed i Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1952 yn Helsinki.

Roedd hefyd wedi bod yn gapten ar dîm amatur Cymru, a chwarae i Lovell’s Athletic yng Nghasnewydd.

Sylwebodd ar rai o gemau mwyaf enwog pêl droed Cymru gan gynnwys buddugoliaeth 1-0 Caerdydd yn erbyn Real Madrid yn 1971.