Dave Jones, cyn-reolwr Caerdydd
Mae Watford wedi dweud nad oes unrhyw glwb arall wedi holi yn swyddogol am wasanaethau eu rheolwr Malky Mackay.

Mae’r Albanwr yn cael ei ystyried yn un o’r ffefrynnau i olynu Dave Jones yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond fe arwyddodd Mackay gytundeb tair blynedd a hanner newydd ym mis Mawrth i aros gyda Watford.

“Mae Watford am gadarnhau nad ydynt wedi derbyn unrhyw ymholiad swyddogol ynglŷn â Malky Mackay,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Mae’r rheolwr wedi arwyddo cytundeb newydd yn gynharach eleni ac mae’n parhau i fod dan gytundeb yn Vicarage Road.”

Byddai’n rhaid i Gaerdydd gael caniatâd gan Watford cyn gallu cynnal unrhyw drafodaethau gyda Malky Mackay.

Yn ogystal a hynny byddai yn rhaid iddynt dalu iawndal sylweddol iddo pe baen nhw am ei benodi’n rheolwr newydd yr Adar Glas.