Craig Bellamy, capten Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud mai Craig Bellamy fydd yn penderfynu a yw’n mynd i chwarae ai peidio yn erbyn Reading yn ail gymal y gemau ail gyfle heno.
Bu’n rhaid i’r Cymro adael y cae wedi 17 munud yn unig o’r cymal cyntaf yn Stadiwm Madejski oherwydd anaf i linyn y gar.
Ond bydd capten y clwb yn cael gymaint o amser ag sy’n bosib iddo brofi ei ffitrwydd cyn y gêm holl bwysig yn y brifddinas.
“Fe fydd y penderfyniad yn cael ei wneud mor hwyr â phosib – mae ganddo gyfle o hyd i chwarae,” meddai Dave Jones.
“Roedd Craig wedi dod oddi ar y cae cyn gynted ag y gallai nos Wener, felly bydd rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd.”
Dywedodd y bydd Craig Bellamy yn siŵr o wneud y penderfyniad cywir.
“Os nad ydi o’n gallu chwarae bydd rhaid iddo fod yn onest a rhoi’r cyfle i chwaraewr arall,” meddai Dave Jones.
“Mae Craig Bellamy yn nabod ei gorff ei hun yn dda iawn. Mae’n ddigon doeth a phroffesiynol i wneud y penderfyniad.”
Pe bai Craig Bellamy yn methu’r gêm mae Dave Jones yn cydnabod y bydd hynny’n ergyd enfawr i Gaerdydd.