Fe fydd ymosodwr Abertawe, Stephen Dobbie, yn gobeithio cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth yn erbyn Nottingham Forest nos Iau.

Dyma’r ail waith i’r Albanwr gyrraedd y gemau ail gyfle mewn dwy flynedd – ar ôl helpu Blackpool i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerdydd yn Wembley y llynedd.

Curodd Blackpool Nottingham Forest yn y rownd cyn derfynol y llynedd hefyd, ac mae gan Stephen Dobbie atgofion melys o’r City Ground.

“Mae’r gemau ail gyfle yn wahanol iawn i gemau’r gynghrair,” meddai. “Y ddau gymal a gwybod beth yw’r wobr ar y diwedd sy’n gyfrifol am hynny.

“Roedden ni’n barod i herio unrhyw un am ein bod ni’n canolbwyntio ar ein gêm ein hunain.

“Y nod yw peidio â cholli’r cymal cyntaf ac yna ceisio sicrhau’r fuddugoliaeth yn Stadiwm Liberty.

“Mae cael chwarae yn Wembley yn fraint, ond bydd rhaid i ni gyrraedd yno i ddechrau.”