Morecambe 0–1 Casnewydd  
                                                       

Rhoddwyd hwb arall i obeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth yn erbyn Morecambe yn y Globe Arena nos Fawrth.

Roedd cic o’r smotyn Ryan Bird yn ddigon i sicrhau ail fuddugoliaeth mewn pedwar diwrnod i’r Alltudion a’u codi oddi ar waelod y tabl.

Ar ôl curo Crewe ddydd Sadwrn roedd gan dîm Michael Flynn gyfle i godi o waelod yr Ail Adran gyda thri phwynt yn erbyn Morecambe.

Ac er gwaethaf hanner cyntaf di sgôr, dyna’n union a gawsant wedi i Ryan Bird sgorio unig gôl y gêm o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner yn dilyn trosedd Alex Whitmore ar Alex Samuel.

Mae’r canlyniad ynghyd â cholled drom Leyton Orient yn Accrington yn codi Casnewydd i’r trydydd safle ar hugain yn y tabl, saith pwynt o ddiogelwch gyda deg gêm yn weddill.

.

Morecambe

Tîm: Roche, Whitmore, Edwards, Winnard, Wakefield (Duckworth 54’), Fleming, Rose, Ellison (Molyneux 68’), Evans (Murphy 78’), Mullin, Turner

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Nelson, O’Brien (Barnum-Bobb 80’), Butler, Owen-Evans, Bennett, Labadie, Rigg (Demetriou 70’), Samuel (Williams 87’), Bird

Gôl: Bird [c.o.s.] 67’

Cerdyn Melyn: O’Brien 77’

.

Torf: 1,080