Emyr Huws yn sgorio ei gol gynta' i Gymru (Llun: Nigel French/PA)
Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn enwi ei garfan ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yfory (ddydd Iau, Mawrth 16).

Mae’r gêm yn Nulyn yn un y bydd yn rhaid i Gymru ei hennill er mwyn gorffen ar frig y grŵp a chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia 2018.

Mae Emyr Huws, sydd ar fenthyg yn Ipswich ers Ionawr, yn gobeithio bydd ei enw o’n cael ei gyhoeddi. Mi fethodd y cyfle i chwarae yn Ewro 2016 yn Ffrainc… ond dydi o ddim yn un sy’n edrych yn ôl a meddwl beth allai fod wedi digwydd.

Cyfle yn Ipswich

Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar chwarae i Ipswich yn y bencampwriaeth a bydd cael ei ddewis i Gymru yn fonws. Mae Wedi dechrau chwe gêm a sgorio 2 gôl hyd rŵan.

“Rwy’n chwarae’n gyson ar hyn y bryd,” meddai Emyr Huws wrth golwg360, “a fedra’ i ond trio creu argraff ar Chris Coleman. Dw i’n hapus i fod yn rhan o’r garfan, ond gwella ydi’r nod.

“Mae’n gêm enfawr yn Nulyn, ond pe baen ni’n chwarae i’n potensial, does dim rheswm pam na allwn ni ennill yno, mae pawb yn edrych ymlaen, ac wedyn bydd gêm galed arall fis Mehefin yn Serbia.

“Dydi Gareth Bale ac Aaron Ramsey ddim wedi chwarae cymaint o gemau yn ddiweddar chwaith, ond maen nhw’n hogiau ffit ac yn chwaraewyr mawr i Gymru.”

Tymor rhwystredig

Ar ôl dechrau tymor rhwystredig  gyda Chaerdydd yn newid rheolwr, mae’r gŵr o Lanelli yn mwynhau ei gyfnod yn Ipswich.

“Rwy’n rhannu fflat gyda Tom Lawrence, felly mae’n gwmni,” meddai. “Hefyd, mae Tom ar dân tymor hyn yn sgorio goliau gwych o bob man, yn sicr buasai’n wych pe bai’r ddau ohonon ni’n cael ymuno â’r garfan.”

Mae Tom Lawrence yn chwarae pêl-droed gorau ei yrfa ar hyn o bryd, yn ôl rhai, ac mae’n amlwg yn achosi cur pen i Chris Coleman. Roedd Emyr Huws yn ol pob son, yn anlwcus i golli allan ar daith i Ffrainc, ond fe aeth Chris Coleman am brofiad yng nghanol y cae ar gyfer y bencampwriaeth honno.

Ond mae wedi pwysleisio y bydd cyfleon iddo yn y dyfodol – a gyda Aaron Ramsey heb chwarae cymaint y tymor hwn, mae Emyr Huws, 23, yn barod i gamu i’r bwlch. Does dim amheuaeth bod ganddo ddyfodol mawr o’i flaen.

Mae gan Emyr Huws ddeg cap ac un gôl i Gymru eisoes, ac mae wedi chwarae tair allan o’r pedair gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018.

“Fel dw i wedi sôn, dw i am gario ymlaen i greu argraff ar bawb a chymryd bob gêm ar y tro, a chawn weld lle bydd yn arwain at dymor nesaf,” meddai wedyn.