Mae tîm pêl-droed Y Seintiau Newydd wedi creu hanes gyda’u 27ain buddugoliaeth o’r bron, sy’n curo record y mawrion o’r Iseldiroedd, Ajax.

Cafodd y record honno ei gosod 44 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Johan Cruyff yn un o’r hoelion wyth, ynghyd â Johan Neeskens ac Arie Haan.

Daeth 27ain buddugoliaeth Y Seintiau Newydd neithiwr wrth iddyn nhw guro’r Derwyddon Cefn oddi cartref o 2-0.

Ryan Edwards a Jon Routledge sgoriodd y ddwy gôl i dorri’r record ac i sicrhau 21ain buddugoliaeth o’r bron yn y gynghrair.

Daeth nifer o’r 27 o fuddugoliaethau yng Nghwpan Irn-Bru yn yr Alban.