Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi enw eu cynrychiolydd newydd ar fwrdd cyfarwyddwyr y clwb.

Mae Stuart McDonald, eu trysorydd, yn disodli Huw Cooze, a ymddiswyddodd yn fuan ar ôl i ddau Americanwr, Jason Levien a Steve Kaplan brynu’r clwb.

Gwnaeth ei ymddiswyddiad ar ôl 14 o flynyddoedd yn y rôl orfodi’r Ymddiriedolaeth i ymddiheuro am ddiffyg tryloywder yn eu prosesau llywodraethu.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Cooze wedi bod yn derbyn £38,558 am ei waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a’i fod wedi derbyn dros £78,000 ers 2010.

Wrth ymateb i benodiad Stuart McDonald, dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr, Phil Sumbler: “Mae Stuart wedi bod yn gweithio fel aelod o is-bwyllgor Bwrdd yr Ymddiriedolaeth sy’n ystyried y sefyllfa mewn perthynas â chyfrannau’r Ymddiriedolaeth yn y clwb pêl-droed, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda fe yn ei rôl newydd.

“Rwy’n gwybod y bydd Stuart yn cynrychioli lles ein haelodau hyd eithaf ei allu.”

Dywedodd Stuart McDonald mai “braint” yw cael ei benodi, a’i bod yn “gyfnod tyngedfennol” i’r Ymddiriedolwyr.