Ar drothwy’r gêm yn erbyn Abertawe nos fory (nos Fawrth, Rhagfyr 10), mae Clwb Pêl-droed Plymouth Argyle wedi penodi’r hyfforddwr profiadol Mike Phelan yn is-reolwr i Wayne Rooney.
Mae Phelan wedi gweithio i Manchester United mewn dau gyfnod, gyda Syr Alex Ferguson rhwng 2008 a 2013, ac eto rhwng 2018 a 2022.
Fe fu Rooney yn chwarae i’r clwb yn ystod y cyfnod hwnnw.
Daw’r penodiad yn dilyn ymadawiad Pete Shuttleworth am resymau personol, ac fe fydd e’n aros gyda’r clwb tan ddiwedd y tymor.
Mae Phelan hefyd wedi hyfforddi timau Blackpool, Norwich a Hull, gan dreulio cyfnod yn rheolwr ar Hull hefyd pan oedden nhw yn Uwch Gynghrair Lloegr.