Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi penodi Omer Riza yn rheolwr tan ddiwedd y tymor.
Fe fu’n rheolwr dros dro ers i’r Adar Gleision ddiswyddo Erol Bulut ym mis Medi, pan oedd y clwb ar waelod y Bencampwriaeth heb fuddugoliaeth, gyda dim ond un pwynt yn eu chwe gêm agoriadol.
Ers hynny, maen nhw wedi cronni 16 o bwyntiau mewn deuddeg o gemau ac wedi codi allan o safleoedd y gwymp i ugeinfed.
‘Newid er gwell’
Yn ôl Vincent Tan, perchennog y clwb, maen nhw “wedi gweld newid er gwell” ers penodi Omer Riza yn rheolwr dros dro.
Dywed fod “rhai canlyniadau addawol” wedi bod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mai’r nod yw dringo’r tabl a datblygu’r garfan “â ieuenctid a gallu yn greiddiol iddi”.
Mae e wedi diolch i’r cefnogwyr am eu hamynedd, er bod rhai wedi bod yn lleisio’u hanfodlonrwydd ers tro na fu cyhoeddiad am reolwr parhaol ers peth amser.