I ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd, mae artist o Halifax yn Swydd Efrog wedi darlunio Gareth Bale â’i ddwylo’n creu siâp calon o amgylch bathodyn Cymru.

Gyda graffit a siarcol mae Marc Loboda yn creu darluniau yn bennaf, ond mae’n ychwanegu ychydig o liw – “coch yn bennaf,” meddai – gan ei fod yn cefnogi tîm pêl-droed Manchester United.

Mae hynny’n gweddu’n berffaith i’w ddarlun o gapten Cymru sydd, meddai Marc Loboda “wedi cael amser caled yn Real Madrid yn ddiweddar” ond sy’n dal i fod yn hoff chwaraewr yr arlunydd.

“Mae bob amser yn anhygoel pan mae’n chwarae i Gymru,” meddai wrth golwg360.

“Pan welais y llun hwnnw o Gareth Bale, fe roddodd y syniad i mi ychwanegu ychydig o liw.

“Y lliwiau wnes i ychwanegu oedd gwyrdd, gwyn a choch, sef lliwiau Cymru.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai hynny’n syniad da. Dyna pam y tynnais i fe.”

‘Teulu o bob man’

Yn gefnogwr Lloegr, mae gan Marc Loboda deulu ym mhob rhan o’r byd.

“Daeth fy mam draw o Ganada, fy nhad o Hwngari, modryb o’r Eidal, ganed fy nhaid yn Lviv, mae gennyf frawd yng nghyfraith o Goa a brawd yng nghyfraith arall sy’n hanu o Granada,” meddai.

Er ei fod yn cefnogi Manchester United, mae’n dweud ei fod yn “gefnogwr pêl-droed yn gyntaf”, ond mae ei waith celf yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hynny.

“Rwy’n gwneud popeth o chwaraeon i sêr ffilm i gerddorion yn fy nghelf,” meddai.

“Rwy’n gallu tynnu llun o adeiladau, rwy’n gallu tynnu llun unrhyw beth.

“Rwy’n gwneud celf o bêl-droedwyr a gwahanol chwaraewyr yn bennaf.”

Y daith i fod yn artist

Er bod gwaith celf Marc Loboda heb ei ail, dydy e ddim wedi astudio celf heibio i TGAU, ond mae wedi bod yn creu gwaith celf ers amser maith.

“Fe wnes i newyddiaduraeth chwaraeon a’r cyfryngau yn y brifysgol” meddai.

“Hanner ffordd drwy’r cwrs, wnes i sylweddoli nad ysgrifennu oedd lle’r oedd fy nghalon.

“Ychydig flynyddoedd ar ôl y brifysgol, roeddwn i’n gwneud darnau o waith.

“Fe ddaeth 2017 a doedd gen i ddim arian, roedd hi’n ben-blwydd fy chwaer, a phrin y gallwn i fforddio prynu anrheg iddi.

“Roedd hi newydd gael ei phlentyn cyntaf, fy nai.

“Roedd gen i bensiliau, ac ychydig o bapur, a rhoddodd y syniad i mi dynnu llun ei mab newydd-anedig.

“Fe’i postiodd ar ei Facebook ac yn y pen draw, cefais gwpwl o ymholiadau gan bobol yn gofyn i mi dynnu llun o’u plant.

“Yn y bôn, dros y bedair neu bum mlynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn beth hunanddysgedig.

“Roeddwn bob amser yn eitha’ da yn yr ysgol uwchradd am arlunio, ond mae fy ngwaith wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf.

“Yn y bôn, mae’n ymwneud â rhoi’r oriau i mewn, ymarfer, google-o ac edrych ar YouTube.

“Mae angen darganfod beth yw’r technegau gorau i’w defnyddio a beth yw’r deunyddiau gorau.

“Rwy’ wedi cysylltu ag artistiaid yn fy rhanbarth o gwmpas Halifax, a gofyn am eu cyngor.

“O gymharu fy ngwaith celf nawr â rhai blynyddoedd, rwy’ ddeg gwaith yn well, gallwch weld y gwahaniaeth.

“Mae’r manylion yn fy ngwaith wedi gwella cymaint. Mae hynny trwy ymarfer a rhoi’r oriau i mewn.

“Ges i C mewn celf yn yr ysgol.

“Yn amlwg, pan fyddwch chi’n gwneud celf yn yr ysgol, mae pawb yn ei gymryd fel gwers i chwarae o gwmpas ynddi.

“Wnes i ddim gorffen fy ngwaith cwrs, a dyna pam ges i’r marc yna.”

Mynd i’r brifysgol a throi cefn ar gelf

Ond fe ddaeth y daith i ben, am y tro o leiaf, pan newidiodd gyfeiriad yn y brifysgol ac yn y blynyddoedd ar ôl hynny.

“Am dair neu bedair blynedd ar ôl y brifysgol, doeddwn i ddim yn tynnu lluniau,” meddai.

“Roedd wyth neu naw mlynedd lle nad oeddwn yn tynnu llun.

“Dim ond yn y bedair neu bum mlynedd ddiwethaf rydw i wedi dechrau tynnu lluniau eto.

“Mae’r holl dechnegau rwy’n eu defnyddio nawr yn dechnegau nad oeddwn i’n arfer eu defnyddio.

“Nawr, rwy’n defnyddio pob math o ddeunyddiau a thechnegau gwahanol.

“Maent yn bethau nad oeddwn yn gwybod amdanynt pan oeddwn yn blentyn.

“Dyna pam mae fy ngwaith gymaint yn well nawr.”

Mae Marc Loboda yn credu, os yw rhywun yn caru pwnc, y byddan nhw’n ei astudio ar eu liwt eu hunain, heb ddibynnu ar y system addysg.

Felly beth yw ei gyngor i arlunwyr y dyfodol?

“Mae sbel ers i mi fod yn yr ysgol,” meddai. “Yn ôl pan oeddwn i yno, doedd e ddim yn wych.

“Rwy’n meddwl, gydag unrhyw beth, os ydych chi’n caru’r pwnc y byddwch yn gwneud eich gwaith cartref y tu allan i’r ystafell ddosbarth i’w ddeall a dysgu’r holl dechnegau gwahanol.

“Allwch chi ddim disgwyl i’r athro sy’n eich dysgu fod yn Vincent Van Goch a gwybod popeth.

“Byddan nhw ar ryw safon, mae’n rhaid iddyn nhw feddu ar wybodaeth gyffredinol am bopeth.

“Rwy’n meddwl mai mater i’r myfyriwr yw deall eu pwnc a mynd i frig eu pwnc.

“Dw i ddim yn siŵr sut beth fyddai bod yn yr ysgol heddiw.”

Ac yntau’n gweithio’n rhan amser bum mlynedd yn ôl, mae bellach wedi penderfynu canolbwyntio ar gelf yn llawn amser.

“Roeddwn i’n ei wneud yn rhan amser ar ddiwedd 2017, wnes i ddechrau gwneud ychydig o waith celf.

“Trwy 2018, roeddwn yn ei wneud yn llawn amser weithiau.

“Wnath pethau gynyddu trwy 2019, a tua diwedd 2019, wnes i ollwng popeth a dechrau gweithio’n llawn amser.

“Yn 2020, gwnaeth y pandemig gyrraedd, ac roedd popeth yn dal yn anghyson, roedd yn amser caled.

“Bu’n rhaid i lawer o fusnesau a phobol hunangyflogedig roi’r gorau i’r hyn roedden nhw’n ei wneud.

“Yn ffodus, wnes i lwyddo i ddyfalbarhau.”

Gweithio yn America

Nid yn unig mae Marc Loboda yn gwneud lluniau o bêl-droedwyr, ond mae wedi bod yn gweithio mewn maes arall, yn llawer agosach at chwaraewyr pêl-droed yn ddiweddar.

“Ro’n i wedi bod yn America am dri neu bedwar mis yn ddiweddar,” meddai.

“Rwy’ newydd ddod yn ôl i Loegr nawr.

“Mae gan fy ffrind academi bêl-droed yn Lancaster, Pennsylvania o’r enw Lancashire Elite.

“Mae’n dod o hyd i chwaraewyr sy’n gadael clybiau neu’n dangos addewid mewn gwahanol glybiau ar draws Ewrop ac ar hyd y byd.

“Mae gennych chi lawer o chwaraewyr o Loegr oedd yn arfer chwarae i Sheffield United a chlybiau gwahanol yn Lloegr.

“Mae ychydig o chwaraewyr o Seland Newydd ac America.

“Maen nhw’n talu iddyn nhw ddod yno, ac yn talu am lety ac am y pêl-droed.

“Mae ganddo chwaraewyr mewn clybiau ar hyd a lled y wlad.

“Roeddwn i’n gweithio ar ochr hyrwyddo pethau, marchnata, a cheisio cael chwaraewyr i glybiau.

“Roeddwn i’n ffilmio’r holl gemau ac yn rhoi’r holl uchafbwyntiau at ei gilydd.

“Rwy’n dal i wneud hynny nawr. Bydd yn parhau tan Ionawr neu Chwefror.

“Rwy’n gwneud hynny a fy ngwaith celf ar hyn o bryd.”

  • Os ydych chi eisiau gweld gwaith Marc Loboda, ewch i Instagram: @marclobodaart.