Daeth newyddion o’r dwyrain i lorio cefnogwyr pêl-droed o amgylch y byd ddydd Gwener (Tachwedd 18), wrth i FIFA ac awdurdodau Qatar gyhoeddi na fydd alcohol yn cael ei werthu mewn stadiymau pêl-droed na’r ardaloedd o’u cwmpas yn ystod Cwpan y Byd.

O ganlyniad, mae’n bur debyg felly y bydd yna griwiau mawr o gefnogwyr yn crwydro Qatar mewn gwres llethol yn pendroni beth i’w wneud efo nhw eu hunain.

Does dim angen i gefnogwyr ddigalonni’n llwyr, fodd bynnag. Pe baech chi wir eisiau, fe allwch gael alcohol y tu mewn i stadiwm yng Nghwpan y Byd.

Yr oll sydd ei angen arnoch ydi tocyn lletygarwch corfforaethol, sy’n costio £19,000.

Felly fel hyn mae ei dallt hi. Mae alcohol yn haram, ac felly wedi ei wahardd yn Qatar, oni bai eich bod yn gallu fforddio talu £19,000 am docyn, ac os felly mae’n iawn i chi yfed peint… gwneud sens!

Nid y cefnogwyr yn unig sydd wedi’u siomi gan y penderfyniad hwn.

Mae’r cyhoeddiad yn cymhlethu cytundeb nawdd $75m FIFA gyda Budweiser, oedd wedi talu am yr anrhydedd o gael gwerthu eu cwrw yn ystod y gystadleuaeth.

Karma, dw i’n meddwl maen nhw’n galw peth felly.

Oedd o werth o, FIFA?

Mae’r tro pedol hwn yn destun pryder gwirioneddol oherwydd mae’n awgrymu nad ydi FIFA, sydd wedi wynebu blynyddoedd o feirniadaeth am eu penderfyniad i gynnal Cwpan y Byd yn Qatar, mewn rheolaeth lawn o’r penderfyniadau mawr sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad mwyach.

Mae hefyd yn codi cwestiwn sylfaenol: os ydi awdurdodau Qatar yn gallu gwneud tro pedol munud olaf ar werthiant alcohol, ar beth arall y gallan nhw fynd yn ôl ar eu gair?

A fydd yna droeon pedol ar addewidion eraill sy’n mynd yn groes i gyfreithiau ac arferion lleol, megis rhyddid y wasg, protestiadau stryd a hawliau ymwelwyr LHDTC+?

Rydan ni wedi clywed sawl gwaith bod hon yn Gwpan y Byd fel nad ydym erioed wedi’i weld o’r blaen.

Mae hynny’n ddigon gwir, ond am y rhesymau anghywir.

Tybed a fydd FIFA yn dal i gredu bod pa bynnag roddion a llwgrwobrwyon y derbynion nhw er mwyn rhoddi Cwpan y Byd i Qatar werth o ar ddiwedd y twrnament.

Tywysog… pwy?

Cafodd hurtni’r ffaith fod gennym Dywysog Cymru sy’n aelod o Deulu Brenhinol Lloegr ei amlygu’r wythnos hon.

Mewn seremoni digon rhyfedd, fe wnaeth William ymweld â charfan bêl-droed Lloegr er mwyn dosbarthu eu crysau Cwpan y Byd iddyn nhw.

Mae Lloegr, wrth gwrs, yn un o wrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp B yng Nghwpan y Byd, a bydd y ddwy wlad yn herio’i gilydd ar Dachwedd 29.

Yn ystod ei ymweliad, dywedodd ‘Tywysog Cymru’ wrth dîm pêl-droed Lloegr fod y “wlad i gyd y tu ôl i chi”.

Doedd hyn ddim yn llawer o sioc, a dweud y gwir.

Wedi’r cwbl, Sais yw’r Tywysog William, ef yw Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, ac mae ganddo berffaith hawl i gefnogi Lloegr.

A dw i ddim yn sicr faint o groeso fyddai o’n ei gael pe bai’n troi fyny i Stadiwm Dinas Caerdydd mewn het bwced beth bynnag!

Serch hynny, mae’r ffaith fod gennym ni dywysog sy’n ei gwneud hi’n glir ei fod yn cefnogi ein cymydog, y tîm mae nifer o Gymry yn eu hystyried yn elynion pennaf, a gwlad y byddwn ni’n ei herio yng Nghwpan y Byd, yn gwneud i ni edrych ychydig yn wirion, ydach chi ddim yn meddwl?